Mae ymgeiswyr Plaid Cymru am San Steffan Hywel Williams a Ieuan Wyn Jones heddiw wedi gwneud yr achos dros dorri TAW yn y sector adeiladu er mwyn cynhyrchu swyddi a rhoi hwb i economi Cymru.
Byddai cynllun y Blaid i dorri TAW yn rhoi hwb i’r sector adeiladu
Mae ymgeiswyr Plaid Cymru am San Steffan Hywel Williams a Ieuan Wyn Jones heddiw wedi gwneud yr achos dros dorri TAW yn y sector adeiladu er mwyn cynhyrchu swyddi a rhoi hwb i economi Cymru.
Wrth ymweld â chwmni adeiladu lleol yn y Felinheli, soniodd Hywel Williams am adroddiad annibynnol gan Experian a gyhoeddwyd yn 2015 oedd yn dangos y buasai torri TAW felly ar adnewyddu cartrefi wedi arwain at bron i 2,000 o swyddi yn ychwanegol yng Nghymru erbyn 2020 ac wedi cael effaith trwy symbylu gwariant gwerth £47m yn 2015.
Ychwanegodd Ieuan Wyn Jones mai busnesau bach oedd asgwrn cefn economi Cymru, ac y buasai toriad fel hyn mewn TAW yn rhoi hwb y mae ei angen yn fawr ar y sector unwaith i’r DG adael yr UE.
Unwaith i’r DG adael yr UE, bydd gan Gymru y pŵer i amrywio cyfraddau TAW ar lefel is-wladwriaethol.
Meddai Hywel Williams:
“Gallai gostyngiad wedi’i dargedu mewn TAW ddod â nifer o fanteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pendant.
“Fel y dangosodd adroddiad annibynnol gan Experia yn 2015, petai’r toriad mewn TAW wedi ei gyflwyno bryd hynny, buasai wedi arwain at 1,987 o swyddi ychwanegol yng Nghymru erbyn 2020 ac wedi cael effaith o symbylu gwariant gwerth £47m yn 2015.
“Mae’r stoc dai sydd gennym yng Nghymru yn hen, ac y mae gwir angen adnewyddu er mwyn gwella ansawdd cartrefi. Dengys yr holl dystiolaeth y byddai toriad mewn TAW yn golygu y gellid gwneud hyn yn rhatach ac yn fwy effeithiol.”
Ychwanegodd Ieuan Wyn Jones:
“Mae’r diwydiant adeiladu yng Nghymru yn cyflogi dros 100,000 o weithwyr, yn bennaf mewn cwmnïau bychain neu leol.
“BBaCh yw asgwrn cefn ein heconomi, felly byddai cynyddu twf yn y maes hwn yn cael effaith ledled Cymru.
“Ar hyn o bryd, does gan Gymru mo’r grym i amrywio cyfraddau TAW ond bydd hyn yn newid unwaith i ni adael yr UE.
“Rhaid i ni edrych ar ffyrdd ymarferol a chreadigol o amddiffyn Cymru a’i heconomi wrth i ni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r polisi hwn yn un agwedd yn unig o’r ffordd i wneud hynny.”