Plaid yn galw am fwy o 'arian a pharch' i athrawon yn sgil canlyniadau PISA

Mae gweindiog cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, Sian Gwenllian AC wedi dweud fod angen mwy o arian a pharch i athrawon yn sgil darlun cymysg yng nghanlyniadau PISA eleni. 

Dywedodd y byddai Plaid Cymru yn darparu £300 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn i ysgolion a cholegau er mwyn mynd i’r afael a’r argyfwng cyllido ac i ganiatau i athrawon ‘gynllunio yn y tymor hir’.

Yn ol canlyniadau PISA a gyhoeddwyd heddiw mae perfformiad Cymru wedi gwella i raddau bychain ond mae'r canlyniadau'n parhau i fod yn is na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Meddai Sian Gwenllian fod y canlyniadau eleni yn dangos “cynnydd bychan” ar draws y tri maes ond o gymharu a 2006 bu “gostyngiad ym maes gwyddoniaeth”.

Gan dalu teyrnged i waith caled ‘pob myfyriwr’ a’r ‘holl staff ac athrawon’ am eu hymdrechion diflinio, dywedodd Ms Gwenllian fod ‘heriau mawr yn wynebu’r cyfnod nesaf’ gan siarsio fod angen rhoi amser i’r ‘cwricwlwm newydd wreiddio’ a darparu ‘adnoddau a chyfleoedd digonol ar gyfer datblygiad proffesiynol staff’.

Mae un mewn tri o athrawon newydd yn gadael yr ystafell ddosbarth o fewn pum mlynedd ac ers 2010-11 mae yna ostyngiad o 8% mewn termau real o wariant ar bob disgybl gan arwain at athrawon profiadol yn cael eu diswyddo.

Dywedodd Ms Gwenllian fod hyn yn arwain at ‘nifer mawr o blant mewn dosbarthiadau, llai o gyfle i roi sylw i anghenion unigol a gwaith bugeiliol.’

Meddai Sian Gwenllian fod angen ‘chwistrelliad o arian cyson’ i ysgolion er mwyn gwella amodau gwaith athrawon ac i ddenu mwy o athrawon newydd i’r proffesiwn  gan sicrhau fod adnoddau yn ‘cyraedd y rheng flaen’. Ychwanegodd fod angen ‘symud i ffwrdd’ o grantiau penodol a dyraniadau munud olaf.

Meddai gweindiog cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, Sian Gwenllian AC,

“Mae gan Gymru yn ei phobl ifanc lawer iawn o botensial, talent a sgil a rhaid talu teyrnged i bob myfyriwr am eu gwaith caled yn ogystal a'r holl staff ac athrawon am eu hymdrechion diflino i sicrhau bod ein pobl ifanc yn cyflawni. Mae profion rhyngwladol PISA yn un ffordd o fesur cynnydd ond rhaid defnyddio’r data yn ddoeth ac edrychaf mlaen i gael cyfle i ddadansoddi’r cynnwys yn ofalus dros y dyddiau nesaf.

“Mae cynnydd bychan wedi bod ar draws y tri maes (mathemateg, gwyddoniaeth a darllen) ers 2015, sy'n galonogol. Ond o gymharu â 2006 cafwyd cynnydd bychan mewn mathemateg a darllen, ond gostyngiad ym maes gwyddoniaeth. Rhaid cofio fod dirywiad wedi digwydd yn y tri maes yn 2009 a 2012 ac mae dim ond megis ail-gydio yn sefyllfa 2006 ydyn ni rwan. Mae'n dda gweld arwyddion y gallai'r canlyniadau fod nôl ar y trywydd cywir wedi cyfnod o maith o ddirywiad.

“O edrych ymlaen, mae heriau mawr yn wynebu'r cyfnod nesaf.

“Mae angen parhau gyda’r cynnydd bychan ers 2015 mewn cyfnod o newid anferth yn ein system addysg a gwneud yn siwr fod amser i'r cwricwlwm newydd wreiddio, gan ddarparu adnoddau a chyfleoedd digonol ar gyfer datblygiad proffesiynol staff.

“Ar drothwy cyflwyno cwriclwm newydd, mae ein ysgolion yn dioddef argyfwng cyllido enbyd. Ers 2010-11 mae yna ostyngiad o 8% mewn termau real o wariant ar bob disgybl. Mae llawer gormod o’n hathrawon mwyaf profiadol yn gorfod cael eu diswyddo wrth i ysgolion orfod gweithredu ar lai a llai o arian yn sgil toriadau. Mae hyn yn arwain at nifer mawr o blant mewn dosbarthiadau, llai o gyfle i roi sylw i anghenion unigol a gwaith bugeiliol. 

“Ar ben hyn, mae problemau recriwtio ac mae un mewn tri o athrawon newydd yn gadael yr ystafell ddosbarth o fewn pum mlynedd.

 “Mae angen chwistrelliad o arian cyson i ysgolion ac mae angen gwella amodau gwaith athrawon. Mae angen iddyn nhw allu neilltuo eu hamser i addysgu ac ysbrydoli eu disgyblion ac mae angen gwneud y proffesiwn yn ddeniadol i ddarpar athrawon gan arwain at recriwtio mwy o athrawon rhagorol i’n hysgolion.

“Dyna pam mae Plaid Cymru yn addo darparu £300 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn i’n hysgolion a’n colegau, fel bod modd cynllunio yn y tymor hir, a sicrhau bod adnoddau'n cyrraedd y rheng flaen mewn modd effeithiol ac amserol, gan symud i ffwrdd o grantiau penodol a dyraniadau munud olaf. Dyw ein ysgolion, ein athrawon a’n disgyblion yn haeddu dim llai.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.