Tegwch i’n Planed

O gydnabod yr argyfwng hinsawdd a natur yr ydym ynddo, rhaid i ni feddwl y tu hwnt i dwf economaidd yn nhermau GDP, a byddwn yn galw ar Lywodraeth nesaf y DG i ystyried mabwysiadu ffyrdd eraill o fesur yr economi.

Buasem yn cyflwyno Mesur Busnes, Hawliau Dynol a’r Amgylchedd. Byddai hyn yn ei gwneud yn orfodol i gwmnâi preifat gynnal diwydrwydd dyladwy yn eu cadwyni cyflenwi er mwyn atal treisio hawliau dynol a niwed amgylcheddol. Byddai’r mecanwaith ar gyfer gorfodi wedi’i modelu ar y ‘ddyletswydd i atal’, fel sydd yn Neddf Llwgrwobrwyo 2010.

Economi a Threthiant: darllen mwy