Plismona Cyffuriau

Cred Plaid Cymru y dylai plismona cyffuriau ganolbwyntio ar dargedu llinellau cyflenwi a’r rhai yn y fasnach gyffuriau drefnedig sy’n gwerthu cyffuriau, yn hytrach na defnyddwyr unigol, os nad yw’r bobl hynny yn achosi unrhyw niwed ehangach.

Yr ydym yn cydnabod fod rhai defnyddwyr cyffuriau yn gyfrifol am droseddau meddiangar er mwyn talu am eu dibyniaeth. Dylid eu cefnogi i roi’r gorau i fod yn gaeth. Mae llawer o ddefnyddwyr hefyd yn masnachu ac yn dioddef cam-fanteisio fel rhan o rwydwaith o droseddau. Mae hyn yn fater pryder o ran diogelu pan fo plant yn rhan o’r darlun.

Cred Plaid Cymru fod polisi cyffuriau yn fater iechyd cyhoeddus, a bod lleihau nifer yr unigolion sy’n gaeth i sylweddau o les ehangach i gymdeithas. Byddai cyflwyno ystafelloedd defnyddio cyffuriau ledled Cymru yn hwyluso agwedd fwy dyngarol a chynaliadwy at faterion caethdra i gyffuriau.

Mae’n amlwg nad yw dulliau traddodiadol o blismona cyffuriau a throseddau trefnedig wedi llwyddo, a’u bod wedi arwain at amgylchedd gelyniaethus a threisgar. Byddai Plaid Cymru yn croesawu adolygiad annibynnol o bolisi cyffuriau a’r modd y mae’n cael ei blismona.

Credwn, trwy gyflwyno polisi o ddadgriminaleiddio cyffuriau meddal sy’n parchu dewisiadau unigol, y byddai modd i ni dargedu adnoddau plismona yn well tuag at grwpiau trefnedig sy’n elwa o ddioddefaint a natur fregus pobl eraill.

Ochr yn ochr â hyn, credwn y dylai Swyddfa Gartref y DG lanhau record droseddol y sawl a gafodd rybudd neu euogfarn o fod ym meddiant cyffuriau lle nad oes unrhyw ffactorau gwaethygol pellach.

Cyfiawnder Troseddol a Phlismona: darllen mwy