Plismona Protestiadau
Cred Plaid Cymru fod protestio di-drais yn fecanwaith pwysig mewn democratiaeth i ddangos cefnogaeth gyhoeddus neu i uniaethu ag achos. Cefnogwn hawl yr unigolyn i ryddid mynegiant a’r hawl i ymgynnull.
Dylid parchu hawliau’r unigolyn; felly hefyd hawliau heddweision i beidio â bod dan fygythiad o niwed wrth gyflawni eu dyletswyddau cyfreithlon.
Nid ydym yn cefnogi’r ddeddfwriaeth a weithredwyd gan y llywodraeth Geidwadol yn San Steffan sydd yn cyfyngu’n annheg ar y cyfloed i brotestio’n ddi-drais. Byddai Plaid Cymru yn diddymu’r pwerau hyn yn San Steffan, gan gynnwys rhannau perthnasol Deddf yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 a Deddf y Drefn Gyhoeddus 2023.
Gwaetha’r modd, nodwn fod rhai grwpiau yn aml yn troi at drais i wneud eu pwynt, a rhaid plismona hyn mewn dull mwy cadarn na digwyddiadau sydd o natur ddi-drais.
Mae’n hynod siomedig fod dros £1m wedi ei wario gan Heddlu Dyfed-Powys i blismona protestiadau yng ngwesty’r Stradey Park yn Llanelli oherwydd cynllun cyfeiliornus a grëwyd gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, ac y rhoddwyd y gorau iddo yn nes ymlaen.
Cred Plaid Cymru y dylid gwneud iawn i Heddlu Dyfed-Powys am gost camgymeriad San Steffan, yn hytrach na’u bod yn gorfod adennill yr arian gan drethdalwyr yr ardal.