Mae Aelodau Plaid Cymru o’r Senedd a Senedd San Steffan o’r gogledd wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn galw arno i wneud yn glir wrth ei gydweithwyr yn y blaid na ddylent fod yn hybu canllawiau iechyd cyhoeddus Lloegr yng Nghymru.

Dan arweiniad Hywel Williams AS, galwodd y grŵp o gynrychiolwyr y gogledd ar i’r Prif Weinidog wneud yn glir i’w gydweithwyr Ceidwadol ar ddwy ochr y ffin y dylent hyrwyddo’r canllawiau priodol ar gyfer pob cenedl er mwyn gwneud yn siŵr “nad ydynt yn gweithio yn erbyn sefydliadau’r DU a’n hymdrechion ar y cyd i gynnwys Covid-19.”

Mae’r llythyr yn tynnu sylw at nifer o enghreifftiau lle mae ASau Ceidwadol wedi rhannu canllawiau anghywir, gan gynnwys postiadau ar gyfryngau cymdeithasol gan gyn-Ysgrifennydd Cymru David Jones AS a’r AS dros Amwythig Daniel Kawczynski. Mae’r llythyr hefyd yn tynnu sylw at sylwadau a wnaed gan rai ASau Ceidwadol yn gofyn am ganiatáu teithio ar draws ffiniau, er i arbenigwyr iechyd cyhoeddus yng Nghymru ddweud y gallai hyn achosi lledaenu’r pandemig.

Mae’r canllawiau ar y ‘cloi’ yn llymach yng Nghymru nag yn Lloegr, gan gadw’r neges ‘arhoswch adref’. Mae hyn oherwydd i arbenigwyr iechyd cyhoeddus rybuddio fod rhannau o Gymru yn gynharach yng nghylch y pandemig na rhai ardaloedd yn Lloegr.

Yn y llythyr, dywed Hywel Williams:

“Rwy’n ysgrifennu atoch, ynghyd â’m cydweithwyr sy’n cynrychioli gogledd Cymru yn y Senedd a Senedd San Steffan, i fynegi fy mhryder dybryd ynghylch y ffordd anghyson y cafodd y llacio diweddar ar gyfyngiadau yn Lloegr eu cyfleu, sydd wedi arwain at ddryswch mawr ymhlith aelodau o lywodraeth y DG yn ogystal â’r cyhoedd. Yn benodol, hoffwn dynnu eich sylw at ymddygiad nifer o Aelodau Seneddol Ceidwadol sydd wedi bod yn awgrymu ar gam fod y llacio diwedd ar gyfyngiadau yn Lloegr hefyd yn gymwys i Gymru.

“Rwy’n siwr y buasech yn cytuno gyda’r cyngor arbenigol ar y pwynt sylfaenol fod llawer rhan o’r DG, gan gynnwys Cymru, heb dawelu’r feirws yn ddigonol ac nad oes ganddynt chwaith mo’r arfau i leoleiddio nac olrhain y feirws ofnadwy hwn, i’r camau cloi gael eu codi yn sylweddol yn fwy na’r mân newidiadau a wnaed. Byddai unrhyw gamau cynamserol a allai lacio’r cyfyngiadau a pheryglu bywydau ein dinasyddion felly yn hollol anghyfrifol ac yn golygu cefnu ar ein dyletswydd fel gweision i’r cyhoedd.

“Rwyf wedi croesawu eich sylwadau diweddar i’r perwyl fod cyfyngiadau yn dal mewn grym yng Nghymru cyhyd ag y gwêl Llywodraeth Cymru hwy’n angenrheidiol, ac na ddylai pobl sy’n byw yn Lloegr deithio ar draws ein ffin oni bai bod y daith yn hollol angenrheidiol. Serch hynny, mae nifer o Aelodau Seneddol Ceidwadol ers hynny wedi postio sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol sydd yn annog teithio i Gymru o Loegr ac wedi awgrymu fod mesurau sy’n gymwys yn unig i Loegr yn gymwys hefyd i Gymru.

“Er enghraifft, gwnaeth David Jones AS drydar “lansio canllawiau newydd i gael Prydeinwyr yn ôl i weithio’n ddiogel” ar Fai 12, er i’r canllawiau ddweud yn blaen mai i Loegr yn unig yr oedd hyn yn gymwys. Hefyd, mae sylwadau pellach gan Dr James Davies AS ar yr un dydd am dwristiaeth yn awgrymu bod disgwyl mwy o lacio ar dwristiaeth a theithio ar draws y ffin. Afraid dweud fy mod yn gobeithio nad yw’r trydariad hollol annerbyniol gan Daniel Kawczynski AS yn galw Senedd Cymru yn “gorff drud a diangen” yn adlewyrchu naill ai bolisi’r blaid Geidwadol na Llywodraeth y DG tuag at ddatganoli.

“Mae sylwadau fel hyn yn dangos sarhad llwyr i’r aberth a wnaed yng Nghymru i gynnwys y feirws erchyll hwn, proses datganoli a’i sefydliadau, ac y mae’n bygwth sbarduno dryswch a gwrthdaro rhwng ymwelwyr o Loegr a’r cyhoedd yng Nghymru ar ein ffin. Yn y bôn, mae ymddygiad fel hyn yn wybodaeth ffug ac yn tanseilio ymdrechion gan gyrff iechyd cyhoeddus ac awdurdodau lleol yng Nghymru i gynnwys Covid-19.

“Rwy’n erfyn arnoch felly i sicrhau cysondeb yn neges llywodraeth y DG fod y llacio ar gyfyngiadau ar ddydd Sul, a esboniwyd ymhellach ar ddydd Llun, yn gymwys i Loegr yn unig. Byddai’n fuddiol dros ben ac yn adeiladol petai’r esboniad hwn yn cael ei basio ymlaen at eich cydweithwyr yng ngogledd Cymru er mwyn gwneud yn siwr nad ydynt yn gweithio yn erbyn sefydliadau’r DG a’n hymdrechion ni oll i gynnwys Covid-19.”