Pobl Dduon, Asiaidd a Rhai o Leiafrifoedd Ethnig
Mae Plaid Cymru yn ffieiddio hiliaeth ar unrhyw ffurf. Yr ydym yn cydnabod fod pobl o’r mwyafrif byd-eang dan anfantais strwythurol, a rhaid mynd ati i gymryd camau i drin a dileu’r hiliaeth strwythurol hwn. Mewn meysydd megis cyfiawnder troseddol, cyfiawnder ieuenctid, recriwtio, cynnydd trwy addysg, gofal iechyd ac iechyd meddwl, mae grwpiau ethnig lleiafrifol yn dal i wynebu camwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol, sy’n annerbyniol.
Yr ydym yn cefnogi ymchwil i’r rhwystrau a wynebir gan gymunedau wrth gyrchu gofal iechyd a sut i ymdrin â hyn, gan fynd i’r afael â chamwahaniaethu hiliol strwythurol a sefydliadol ac Islamoffobia lle mae’n bodoli.
Mae amrywiaeth yn cyfoethogi Cymru a gall alluogi cymunedau i gael eu deall a’u cynrychioli. Dylai pob mudiad sy’n ymwneud â’r cyhoedd ystyried eu harferion recriwtio er mwyn sicrhau eu bod yn cynrychioli gwahanol gymunedau ac yn deall eu problemau a’u pryderon.
Yr ydym yn cefnogi Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth Cymru (ArWAP), a byddwn yn gweithio i sicrhau y caiff ei weithredu’n effeithiol a chymesur.