Pryder fod Gweinidog y Gymraeg yn pwyso ar Gomisiynydd y Gymraeg i beidio ymchwilio i gwynion

Sian_Gwenllian.jpg

Mae Gweinidog Cysgodol y Gymraeg Plaid Cymru, Siân Gwenllian AC, wedi mynegi pryder fod Llywodraeth Cymru yn ceisio ymyrryd yn annibyniaeth Comisiynydd y Gymraeg a gwanhau’r gyfundrefn safonau.

Daw’r pryder wedi i lythyr gan Weinidog y Gymraeg, Eluned Morgan AC, ddod i’r amlwg, ble y bu iddi awgrymu na ddylai cyn-Gomisiynydd y Gymraeg fod yn ymchwilio i bob cwyn gan aelodau’r cyhoedd.

Yn y llythyr, dyddiedig 26 Tachwedd 2018, dywedodd y Gweinidog y bu i’r cyn-Gomisiynydd, Meri Huws, “sôn [yng nghyfarfod chwarterol y Gweinidog a’r cyn-Gomisiynydd ar 8 Hydref 2018] y [buasai] yn dymuno gweld newid yn y gyfraith i ganiatáu i’r Comisiynydd weithredu datrysiad buan [i gwynion] heb gynnal ymchwiliad llawn.”

Fodd bynnag, mewn llythyr ymateb, dyddiedig 5 Chwefror 2019, dywedodd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg “mai gweision sifil, nid y Comisiynydd, gododd y pwynt ynghylch cyflwyno trefn datrysiad buan drwy newid deddfwriaethol.”

Yn ôl llythyr gwreiddiol y Gweinidog, derbyniodd y Gweinidog gyngor cyfreithiol a ddywedodd y gallai’r Comisiynydd “fabwysiadu polisi i ddynodi sut y [byddai] yn gyffredinol yn arfer [ei] disgresiwn o dan adran 93 [o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011]” mewn dogfen Polisi Gorfodi a fyddai’n gorfod derbyn cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

Yn dilyn llythyr y Gweinidog at y Comisiynydd fis Rhagfyr, dywedodd llythyr ymateb y Dirprwy Gomisiynydd i bu i’r cyn-Gomisiynydd gwrdd gyda’r Gweinidog eto fis Rhagfyr ac esbonio yr oedd wedi gofyn am gyngor cyfreithiol ei hun, ond y dylid ail-gydio yn y drafodaeth yn y gwanwyn.

Yn ôl Gweinidog Cysgodol y Gymraeg Plaid Cymru, Siân Gwenllian AC, mae llythyr y Gweinidog at y cyn-Gomisiynydd yn codi ‘pryder mawr’ fod Eluned Morgan wedi ceisio ‘ymyrryd yn annibyniaeth Comisiynydd y Gymraeg’ a ‘gwanhau’r gyfundrefn safonau’.

Dywedodd Gweinidog Cysgodol y Gymraeg Plaid Cymru, Siân Gwenllian AC:

“Mae’r llythyr yma gan Weinidog y Gymraeg at gyn-Gomisiynydd y Gymraeg yn codi pryder mawr imi fod y llywodraeth yn ceisio ymyrryd yn annibyniaeth y Comisiynydd.

“Mae Mesur y Gymraeg yn gorfodi gweinidogion i beidio cyfyngu ar annibyniaeth y Comisiynydd i fynd o amgylch ei waith. Pam, felly, gwnaeth Gweinidog y Gymraeg geisio ymyrryd yn yr annibyniaeth hwnnw?

“Er mwyn i’r gyfundrefn safonau weithio, mae’n rhaid i’r Comisiynydd allu fynd o amgylch ei waith, a chynnal ymchwiliadau i mewn i dorri safonau, heb fod y llywodraeth yn pwyso arno i beidio gwneud.

“Byddai unrhyw ymgais i newid sut y mae’r Comisiynydd yn gyffredinol yn arfer ei bwerau, a gwanhau Polisi Gorfodi’r Comisiynydd fel nad yw’n cynnal ymchwiliadau i gwynion fel mater o drefn, yn gyfystyr â gwanhau’r gyfundrefn safonau ar draul siaradwyr y Gymraeg.

“Mae hyn yn fater difrifol iawn, ac mae angen i’r Gweinidog gadarnhau annibyniaeth y Comisiynydd yn gyhoeddus.

“Ddwy flynedd yn ôl yn Eisteddfod Ynys Môn cyhoeddodd y Llywodraeth Lafur gynlluniau i gael gwared ar y Comisiynydd ac i droi’r cloc yn ôl ar y trefniadau i sicrhau hawliau siaradwyr Cymraeg. Gwnaethom ni groesawu’r ffaith i’r Gweinidog ddod at ei choed a gollwng y cynlluniau diffygiol hynny.

“Dyma ni mewn Eisteddfod arall ddwy flynedd yn ddiweddarach a’r Gweinidog yn cydnabod bod angen “sylw o’r newydd” ar weithredu’r Strategaeth.

“Yn lle parhau i geisio gweithredu cynigion Bil y Gymraeg – cynigion sydd wedi eu diystyru – drwy’r drws cefn, yr hyn sydd ei angen yw asiantaeth gref yn y llywodraeth i yrru’r gwaith o greu’r Miliwn, cyllid a statws digonol i’r gwaith, ac edrych ar fyrder ar y maes addysg Gymraeg.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.