Bydd Plaid Cymru yn pwyso am greu banc mewn dwylo cyhoeddus os cânt eu hethol ym mis Mehefin, yn dilyn cau cyfres o ganghennau ledled Cymru.
Dywed y blaid fod gormod o fanciau preifat yn cau canghennau ac yn esgeuluso cwsmeriaid a dywedodd eu bod eisiau “banc y bobl” nad yw’n “rhoi’r gorau i’w gwsmeriaid”.
Mae HSBC, Royal Bank of Scotland, Barclays a Grŵp Bancio Lloyds oll ymysg banciau sydd wedi cau 600 cangen rhwng Ebrill 2015 ac Ebrill 2016. Yr oedd 90 y cant o’r rhain wedi cau mewn ardaloedd lle mae incwm canolrif aelwydydd yn is na’r cyfartaledd o £27,600, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Genedlaethol. Ar y llaw arall, yr oedd pump o’r wyth cangen a agorwyd gan y banciau hynny dros yr un cyfnod yn rhai o gymdogaethau cyfoethocaf Prydain - Chelsea, Canary Wharf, St Paul’s, Marylebone a Clapham – oll yn Llundain.
Mae cymunedau ar hyd a lled Cymru naill ai eisoes wedi colli eu banc olaf neu ar fin eu colli, gydag oblygiadau i drigolion a busnesau fydd yn cael eu gorfodi i deithio i gael mynediad at eu harian, a all, yng nghefn gwlad Cymru, olygu taith fydd yn para cyfanswm o 90 munud.
Mae Simon Thomas, llefarydd y blaid ar Faterion Gwledig, wedi galw am greu banc mewn perchenogaeth gyhoeddus i Gymru, ar batrwm yr hyn sydd yng ngwledydd eraill Ewrop, ac addawodd y byddai ASau Plaid Cymru yn dwyn pwysau ar Lywodraeth y DG i weithredu.
Cyhuddodd y Blaid Lafur o fethu a sefyll yn erbyn y Torïaid ac o anwybyddu cau canghennau ledled Cymru.
Dywedodd Simon Thomas AC:
“Mae’n hanfodol bwysig i unigolion a busnesau allu cyrchu cyngor ariannol a gwasanaethau bancio yn rhwydd. Yn anffodus, rydym yn gweld yr un broses o ganoli gyda’r sector bancio preifat ag a welsom yn y sector cyhoeddus.
“Rwyf wedi syrffedu ar glywed y gall cwsmeriaid ddewis bancio ar-lein, am nad yw hyn yn cymryd i ystyriaeth y gwasanaeth band eang gwael iawn a geir mewn llawer rhan o Gymru.
“Nid dim ond Plaid Cymru sy’n ymgyrchu yn erbyn hyn – mae Ffederasiwn y Busnesau Bach ac Undeb Amaethwyr Cymru wedi codi pryderon am y diwylliant canoli hwn. Bydd trefi ar hyd a lled Cymru heb gangen o gwbl, a rhai pobl yn cael eu gorfodi i wneud teithiau cylch o hyd at 90 munud i gael arian.
“Mae banciau yn rhoi’r gorau i’w cwsmeriaid er mwyn mynd ar ôl mwy a mwy o elw, a dylid gosod dyletswydd ar y banciau hyn, sy’n darparu gwasanaeth hanfodol, i roi anghenion cwsmeriaid o flaen eu pocedi eu hunain, yn yr un modd â gwasanaethau post.
“Mae’r Torïaid yn benderfynol o roi elw o flaen pobl, ac y mae’r Blaid Lafur wedi anwybyddu’r rhaglen barhaus o gau ledled ein gwlad. Ni fydd ASau Plaid Cymru yn llaesu dwylo. Bydd ein ASau ni yn sefyll yn y Senedd ac yn mynnu cyflwyno newidiadau. Byddwn yn pwyso am greu banc y bobl, mewn dwylo cyhoeddus. Byddai’n cydweithredu, nid yn cystadlu â darparwyr ariannol eraill, gan gynnwys y Banc Datblygu Cymreig y mae ei fawr angen.”