Pum peth bydd Plaid Cymru yn ei wneud dros ein ffermwyr

Ffermio yw asgwrn cefn cymunedau gwledig ar draws Cymru ac y mae amaethyddiaeth yn sector pwysig o ran economi ehangach Cymru. Ond mae dan fygythiad Brexit - boed hynny yn Brexit Llafur neu Brexit Ceidwadol. 

1. Cadw Taliadau Uniongyrchol

Ffermio yw asgwrn cefn cymunedau gwledig ar draws Cymru ac y mae amaethyddiaeth yn sector pwysig o ran economi ehangach Cymru.

Ar hyn o bryd, mae ymhell dros hanner incwm ffermwyr Cymru yn dod o’r taliadau uniongyrchol maent yn dderbyn trwy Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE. Mae taliadau uniongyrchol yn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i ffermwyr ac y maent yn hanfodol o ran sicrhau hyfywedd ffermydd Cymru a’r economi wledig yn ehangach.

Ond mae gan Brexit oblygiadau difrifol i ffermwyr Cymru.

Os byddwn yn gadael yr UE, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn bwriadu dilyn Llywodraeth Geidwadol y DG trwy ddirwyn taliadau uniongyrchol i ffermwyr i ben a sefydlu system newydd amgylcheddol o reoli tir. Yn y cyfamser, bydd ffermwyr yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a gweddill 27 yr UE yn cadw taliadau uniongyrchol, gan greu maes chwarae anwastad i ffermwyr Cymru gan danseilio hyfywedd ei busnesau.

Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cadw cynllun taliadau uniongyrchol. Gallwn hefyd amddiffyn y cyllid hwn ar gyfer ffermwyr Cymru trwy aros yn yr UE.

Yn y cyfamser, petaem yn gadael yr UE heb gytundeb, gallai ffermwyr wynebu tariffau serth ar werthu eu cigoedd yn eu prif farchnad - gweddill yr UE. Mae’n hanfodol ein bod yn amddiffyn y fferm deuluol Gymreig trwy aros yn yr UE - fydd yn hanfodol i’n cymunedau gwledig, yr economi a’n diwylliant.

Gwnaeth Ben Lake o Geredigion achos cryf i’r Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y dylai pob gwlad yn y DG gael llais cyfartal ynghylch cyfanswm yr arian a neilltuir i ffermio.


2. Taclo ymosodiadau cŵn 

Mae Plaid Cymru yn galw am ddatganoli pwerau sy’n ymwneud ag ymosodiadau gan gŵn ar dda byw. Yng ngogledd Cymru yn unig, cofnodwyd 449 achos o ymosodiadau gan gŵn rhwng 2013 a 2017. Yn ogystal ag achosi loes i anifeiliaid, maent yn faich ariannol trwm ar ffermwyr. Mae’r pedwar darn o ddeddfwriaeth bresennol ar ymosodiadau ar dda byw wedi dyddio, ac nid ydynt yn gydnaws ag arferion amaethyddol heddiw na difrifoldeb y drosedd. Mae angen datganoli a newid mewn deddfwriaeth er mwyn gofalu bod difrifoldeb y drosedd hon yn cael ei ddeall, a bod gan heddluoedd Cymru y pwerau i olrhain y troseddwyr a delio â hwy yn iawn.


3. Brand bwyd Cymreig

Mae sector bwyd a diod Cymru yn hanfodol i ffyniant ac iechyd cymunedau ledled Cymru. Mae’r gadwyn gyflenwi bwyd yn werth £7 biliwn i economi Cymru, tra bod y diwydiant bwyd a diod yn cyflogi rhyw 240,000 o bobl. Byddwn yn ceisio creu marchnad ddomestig gryfach i fwyd, ar sail gallu prosesu cadarnach, gyda chefnogaeth polisiau caffael cyhoeddus pendant. Byddwn hefyd yn amddiffyn ac yn tyfu’r brand Cymreig, gan adeiladu ar y safonau amgylcheddol a lles anifeiliaid uchaf.

Bydd Plaid Cymru yn brwydro am bwerau llawn i’r Senedd dros labelu bwyd. Byddai hyn yn caniatau i ni adeiladu ar y brand Cymreig a’i gyfoethogi, ac yn ychwanegu gwerth at ein cynnyrch Cymreig sydd ag enw da ledled y byd. Bydd ASau Plaid Cymru hefyd yn ceisio sicrhau bod unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol yn sicrhau dynodiadu daearyddol i fwydydd Cymreig allweddol fel cig oen ac eidion Cymru, Halen Mȏn, tato cynnar Sir Benfro, Cregyn Gleision Conwy, Ham Caerfyrddin a Gwin Cymru.


4. Heddlua a chyfiawnder

Mae datganoli cyfiawnder troseddol yn ddechrau ar broses i unioni'r difrod i’r heddlu a achoswyd gan Lywodraethau Torïaidd.

Ar gyfer ardaloedd gwledig yn benodol, byddai hyn yn golygu y bydd ein swyddogion wedi'u gwreiddio'n well yn ein cymunedau, yn lle cael eu hymestyn i gwmpasu ardaloedd daearyddol mawr heb lawer o adnoddau.

Bydd y swyddogion heddlu ychwanegol yn helpu i hwyluso ymgysylltiad cymunedol, lle gall yr heddlu a'r gymuned drosglwyddo materion sy'n peri pryder i'r ddwy ochr.

Gyda phlismona wedi ei ddatganoli, byddai gan heddluoedd Cymru hawl i £25 miliwn yn ychwanegol o grant bloc gan Lywodraeth y DU, yn hytrach na thrwy fformiwla cyllid anghyfartal.


5. Band-eang

Creu Cwmni Seilwaith Band Eang Cymreig i warantu mynediad llawn at fand eang ffeibr-cyflawn i bob cartref a busnes yng Nghymru erbyn 2025.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.