Wrth siarad mewn rali dros Ewrop yng Nghaerdydd heddiw (Sadwrn 14 Hydref), mae Llywydd Anrhydeddus Plaid Cymru, Dafydd Wigley wedi mynnu y bu’r wythnos hon yn un dyngedfennol i Gymru yng nghyswllt ein perthynas yn y dyfodol ag Ewrop.
Wrth siarad mewn rali awyr-agored yn Heol y Frenhines (12.30pm) dywedodd:
“Bu’r wythnos hon yn bendant yn wythnos i Gymru ddeffro. Daeth yn amlwg fod trafodaethau ym Mrwsel yn methu â chyflwyno unrhyw fath o gytundeb. Mae’r Prif Weinidog May wedi cydnabod hyn trwy ddweud ddydd Llun fod ei llywodraeth yn cynllunio ar gyfer pob sefyllfa, gan gynnwys canlyniad heb unrhyw fargen.
“Mae’r 27 aelod-wladwriaeth arall yn symud ymlaen i gael cytundeb masnach newydd, heb i’r DG gymryd rhan o gwbl.
“Yr hyn yr ydym yn ei wynebu yw’r Brexit caletaf oll. Rydym yn cael neidio heb barasiwt. Glanio’n glewt, a hynny’n drychinebus, fydd y canlyniad.
“Dan yr amgylchiadau hyn, byddai’n hollol anghywir – yn gyfeiliornus a styfnig cymryd cam mor ddiwrthdro i’n anwybod, heb gydsyniad llawn a therfynol pobl yr ynysoedd hyn.
“Os, yn wir, mai barn sefydlog y pleidleiswyr yw y dylem adael yr UE heb gytundeb, yna rhaid parchu’r farn honno a’ chyflwyno hynny. Mae gan y bobl berffaith hawl i ddewis llwybr hollol ddigyfeiriad at ddyfodol nad oes modd ei ragweld.
“Ond gyda chymaint yn y fantol, rhaid cael proses gadarnhau derfynol cyn pwyso’r botwm gadael.
“Os, erbyn Ionawr, 2019 nad oes cytundeb wedi ei lofnodi, ei selio a’i gyflwyno – fel sy’n edrych yn gynyddol debygol erbyn hyn – dylid cynnal refferendwm i gadarnhau hynny y mis hwnnw. Os bydd y bobl yn pleidleisio “Ie”, yna dylai Prydain adael yr UE ar y sail a argymhellwyd gan y Llywodraeth. Ond os bydd y bobl yn pleidleisio “Na”, dylid tynnu cais Erthygl 50 yn ôl yn derfynol a diwrthdro.
“Yna gellir rhoi’r holl hanes truenus hwn lle mae’n perthyn - ym min sbwriel hanes a’i gladdu yn nyfnder yr eigion, fel na welir ef byth eto. Gallwn wedyn ddychwelyd at fater difrifol adeiladu cytgord a chydweithrediad yn Ewrop, gall ein diwydiant, ffermwyr, prifysgolion a chwmnïau twristiaeth gynllunio dyfodol diogel, yn rhydd o’r ansicrwydd pryderus a diangen presennol.”