“Dim mwy o lythyrau - mae angen i Gymru wneud i San Steffan eistedd i fyny a gwrando” yn dilyn cynlluniau llywodraeth y DU i ddileu cyfraith y Senedd

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS, wedi galw am y pŵer i Gymru gynnal refferendwm ar hawl ei phobl i allu penderfynu ar eu dyfodol cyfansoddiadol eu hunain.

Gwnaed y galwadau ar ôl i San Steffan nodi ei fwriad i ddiddymu Deddf Undebau Llafur 2017 a basiwyd gan y Senedd, ac mae Mr Price yn dweud bod hynny’n dangos eu “dirmyg nid yn unig tuag at weithwyr, nid yn unig i Gymru, ond i'n democratiaeth.”

Mewn Cwestiynau i’r Prif Weinidog, nododd Mr Price fod “San Steffan am iddo fod yn berthynas lle maent yn rheoli ac mae ein Senedd yn israddol; ble mae eu Senedd yw’r goruchaf a’n Senedd ni yw’r isaf” a galwodd am “lwybrau cyfreithiol ddiogel” i Gymru allu penderfynu ar ddyfodol ei democratiaeth ei hunan. 

Yn yr Alban, mae’r Prif Weinidog Nicola Sturgeon wedi cyflwyno ei chynlluniau i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth ar gyfer dydd Iau 19 Hydref 2023, gan ofyn y cwestiwn “A ddylai’r Alban fod yn wlad annibynnol?”

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS,

“Wrth gyhoeddi, heb air i Lywodraeth Cymru, eu bwriad i ddiddymu Deddf Undebau Llafur 2017 a basiwyd gan ein Senedd, mae San Steffan wedi dangos eu dirmyg nid yn unig tuag at weithwyr, nid yn unig i Gymru, ond i'n democratiaeth.

“Nid dim ond un esiampl arall yw hyn o gydio pŵer ymysg nifer o esiamplau eraill. Mae hyn yn drobwynt. Mae’n bosibl y bydd yn bwynt sy’n torri tir newydd ar gyfer datganoli. Mae hyn yn gwrthdroi hawliau dinasyddion, ond mae hefyd yn gwadu’r hawl iawn i’r dinasyddion hynny benderfynu ar eu dyfodol eu hunain.

“Mae’n rhaid cael ymateb gwleidyddol a fydd yn gwneud i San Steffan eistedd i fyny a gwrando.

“Ni fydd llythyr wedi’i eirio’n gryf gan Lywodraeth Cymru yn gweithio. Ymateb y Prif Weinidog i’r cipio pŵer o San Steffan yw gobeithio am lwyddiant Llafur yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf, ond beth sy’n digwydd os bydd Llafur yn colli’r etholiad cyffredinol nesaf a’r un ar ôl hynny?

“Mae gan Blaid Cymru ateb syml iawn i’r sefyllfa hon, a fyddai’n diddymu hawl San Steffan i wrthod ein democratiaeth yn barhaol – nid yn unig yng nghyfnodau byr Llywodraeth Lafur unwaith bob ugain mlynedd: ac annibyniaeth yw hynny.

“Os nad yw Llafur yn barod i gefnogi annibyniaeth nawr, yna siawns na allan nhw gefnogi refferendwm ymgynghorol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Os yw wedi’i fframio fel Cymru yn erbyn San Steffan yna siawns nad yw hynny’n refferendwm y gallwn ei ennill?”