Ymchwil yn dangos fod yr anghydraddoldeb gwaethaf yn Ewrop rhwng Llundain a Chymru

BeFunky-collage_(1).jpg

Mae’r anghydraddoldeb rhanbarthol gwaethaf yn Ewrop rhwng Llundain a Chymru, yn ôl ymchwil newydd.

Canfu’r ymchwil o Gynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol (CRhMY) hefyd y byddai gan y DG hawl i €13 biliwn (dros £11 biliwn) o gyllid datblygu rhanbarthol ar gyfer cylch 2021-2027. Mae’r cyllid hwn yn cael ei roi i ranbarthau tlotach mewn ymgais i hybu eu perfformiad a’i datblygiad economaidd. Mae’r cylch cyllido cyfredol yn rhedeg o 2014-2020, ac yn ystod yr amser hwn, mae disgwyl y bydd Cymru wedi derbyn £2.06 biliwn o gefnogaeth gan yr UE. Ar sail ymchwil y CRhMY, byddai Cymru ar ei cholled o ryw £2.5 biliwn dros y cylch nesaf sy’n rhedeg o 2021-2027.

Dywedodd ASE Plaid Cymru, Jill Evans, fod yr ymchwil yn dangos fod “cyswllt annatod rhwng Brexit a mwy o anghydraddoldeb”.

Dengys y ffigyrau brawychus newydd fod gan y rhanbarth cyfoethocaf yn y DG, Llundain Fewnol, GDP o 614% o gyfartaledd yr UE, o gymharu â rhanbarth tlotaf y DG, Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, gyda GDP o 68% o gyfartaledd yr UE. Ystyr hyn yw bod gwahaniaeth o 546% mewn GDP cyfartalog cymharol rhwng y ddau ranbarth.

Dengys yr ymchwil fod lefelau’r gwahaniaeth rhanbarthol yn y DG yn gwaethygu, gyda Chymru ar waelod y tabl. Byddai Dwyrain Cymru, a ystyriwyd yn rhanbarth mwy datblygedig'. Yn awr yn cael ei hisraddio i 'ranbarth trosiannol’.

Meddai ASE Plaid Cymru, Jill Evans:

"Dylai’r ffigyrau hyn godi cywilydd ar Lywodraeth San Steffan. 

“Mae cyswllt annatod rhwng Brexit a mwy o anghydraddoldeb. Does dim gwadu’r ffeithiau.    

“Mae’r ffigyrau hyn yn cadarnhau, fel y ddegawd o lymder a aeth heibio, nad y rhai a greodd y llanast hwn fydd yn ysgwyddo’r baich, ond y cymunedau sydd leiaf abl i ymdopi.  

“Os ydym am roi diwedd ar yr anghydraddoldeb enbyd hwn, gadael yr UE yw’r peth diwethaf y dylai Cymru wneud. Byddai colli arian Ewropeaidd hanfodol yn drychineb i Gymru a does gen i ddim ffydd y bydd San Steffan yn rhoi’r fath gefnogaeth i ni. 

"Mae anghydraddoldeb yn y DG yn uwch nac yn unrhyw aelod-wladwriaeth o’r UE. Mae Llundain yn gorboethi, tra bod economi Cymru yn gwanhau.

"Ddydd ar ôl dydd, daw effeithiau erchyll Brexit ar Gymru yn gliriach fyth a daw celwyddau’r Brexitwyr yn amlycach. Mae Pleidlais y Bobl, gyda’r dewis o aros yn yr UE yn awr yn angenrheidiol er mwyn ein democratiaeth, ein cymdeithas a’r economi.”

Wrth holi Gweinidog Llywodraeth Cymru dros faterion gwledig yn ystod sesiwn yn y siambr heddiw, dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth AC:

“Mae Cymru yn wynebu colli symiau enfawr o arian o gyllid rhanbarthol yr UE. Mae’r ymchwil yn amcangyfrif, petae’r DG yn aros yn yr UE y byddai’n derbyn £11.3bn o gyllid rhanbarthol rhwng 2021-27 - cynnydd o 22% o gymharu â 2014-20. A yw’r gweinidog yn cytuno fod hyn yn cryfhau’r ddadl o blaid cynnal Pleidlais y Bobl i bledio achos ein diwydiannau gwledig?”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.