Gallwch ddarllen y ddogfen drwy glicio uchod neu cliciwch yma er mwyn ei lawrlwytho.
Rhaglen gynhwysfawr yw Rhaglen yr Wrthblaid Plaid Cymru y bydd y blaid yn ceisio ei gweithredu yn ystod tymor y Cynulliad.
Dyma’r tro cyntaf i Blaid Cymru gynhyrchu rhaglen fel hon. Bydd yn cynnig dewis amgen cynhwysfawr i raglen y llywodraeth, pan gaiff ei chyhoeddi.
Bydd y ddogfen yn gosod yr agenda ar gyfer cyflawni yn ystod tymor y Cynulliad hwn, ac y caiff ei chyfoesi yn ôl y galw.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood:
“Ers yr etholiad, Plaid Cymru fu’r wrthblaid swyddogol i’r llywodraeth yn y Cynulliad. Yn rhinwedd y swydd honno, fe fyddwn yn gweithio i gyflwyno’r fargen orau i bobl Cymru ac yn sicrhau bob amser mai buddiannau cenedlaethol Cymru sy’n cael eu hybu. Fel gwrthblaid, fe fyddwn yn dal Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu cadarn. Ar yr un pryd, gan nad oedd gan y llywodraeth fwyafrif, mae ein safle ni fel gwrthblaid yn golygu sicrhau enillion a llwyddiannau go-iawn i’n hetholwyr a’r genedl.
“Dyna pam fod Plaid Cymru yn cyhoeddi heddiw ein Rhaglen yr Wrthblaid. Am y tro cyntaf, bydd y llywodraeth dan arweiniad Llafur yn cael ei dal i gyfrif ac yn cael ei gorfodi i weithredu dros Gymru gyfan gan blaid sydd yn meddu ar Raglen amgen fanwl a chynhwysfawr. Mae’r Rhaglen hon yn seiliedig ar ein maniffesto cynhwysfawr ar gyfer etholiad 2016, a bydd yn llywio ein gwaith dros dymor nesaf y Cynulliad.
“Bydd Plaid Cymru yn defnyddio pob cyfle sydd ar gael i ni i sicrhau bod y llywodraeth yn wastad yn gweithio er lles pobl Cymru."
Fe wnaeth Leanne Wood esbonio'r syniad tu ôl i'r rhaglen mewn cyfweliad ar BBC Radio Wales y gallwch ei glywed yma: