Rhaid i ni ddatgan Argyfwng Hinsawdd ar ein telerau ein hunain, nid pan mae hi’n rhy hwyr.

climate.jpg

Leanne Wood a Grenville Ham sy'n nodi fod rhaid i unrhyw ddatganiad am argyfwng newid hinsawdd ddod law yn llaw gyda gweithredu go iawn.

Fe ddenodd Extinction Rebellion lawer o benawdau, ond yn rhy aml, yr oedd yr ymdriniaeth yn canolbwyntio ar y protestwyr eu hunain, gan awgrymu eu bod yn rhy freintiedig, yn rhy ifanc, neu’n ormod o niwsans i gael eu cymryd o ddifrif. Fe wnaeth hyd yn oed y newyddion cadarnhaol golli eu prif alwad: Mae arnom angen i wleidyddion ddweud y gwir am newid hinsawdd a bod o ddifrif am ein hargyfwng ecolegol.

Oherwydd y gwir yw ein bod yn methu’n druenus. Yng Nghymru, mae ein hallyriadau  carbon deuocsid wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf - prawf, ar waethaf y gormodiaith, ein bod yn rhwym o fethu oni fyddwn yn deffro.  

Felly beth wnawn ni? Y cam cyntaf yw cydnabod ein problem, a dyna pam y cyflwynodd Plaid Cymru gynnig yn y Senedd i gyhoeddi Argyfwng Hinsawdd. Wedi’r cyfan, mae gwyddoniaeth gydnabyddedig yn dweud wrthym mai dim ond 12 mlynedd sydd gennym ar ôl i osgoi’r argyfwng hwn. Ond beth sy’n digwydd nesaf?  

Ddeuddydd cyn trafod cynnig Plaid Cymru, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd. Heb yr ymrwymiad i weithredu sydd yn angenrheidiol i ddatganiad o’r fath, mae eu datganiad yn ddiystyr.

Petai ein gwleidyddion yn onest am newid hinsawdd, buasent yn rhoi’r gorau i’r syniad o M4  newydd o gwmpas Casnewydd. Petaem yn deall difrifoldeb ein hargyfwng ecolegol, buasem yn wfftio’r syniad o dywallt concrid dros wastadeddau Gwent fel un trychinebus. Dyna pam fod y protestwyr yn mynnu bod ein gwleidyddion yn dechrau dweud y gwir, oherwydd na fedrwn bellach ddefnyddio atebion yr 20fed ganrif i’n problemau yn yr 21ain ganrif. Nid ffyrdd newydd sydd arnom eu hangen, ond gwell dinasoedd, awyr lanach a dyfodol disgleiriach. Dyma fydd y prawf cyntaf ar  ddatganiad Llywodraeth Cymru.

Economi Newydd

Mae llawer gormod o bwerau sy’n effeithio ar Gymru yn dal i orwedd gyda llywodraeth San Steffan sydd yn benderfynol o ffracio, ehangu meysydd awyr, a gwerthu asedau cenedlaethol. Fodd bynnag, mae gennym rai o’r arfau sydd eu hangen i roi cychwyn ar y chwyldro diwydiannol nesaf ein hunain. Cymru oedd y grym y tu ôl i’r chwyldro diwydiannol cyntaf – rhaid i ni yn awr ein gosod ein hunain mewn sefyllfa i arwain y byd gyda’r naid dechnolegol fawr nesaf.

Mae gennym yr adnoddau helaeth (yr amrediad llanw ail fwyaf yn y byd, i ddechrau) a phoblogaeth sydd o faint digon bychan i symud yn gyfforddus i ddyfodol sero-carbon. Yr hyn mae angen i Lywodraeth Cymru wneud yw datgan yn glir pa newidiadau mae’n rhaid i ni wneud a rhoi hyder yn y tymor hir i’n busnesau, ein buddsoddwyr a’n cymunedau. Yn groes i’r hyn ddywed rhai, y mae llawer o gefnogaeth ym myd busnes i’r agenda hon, cyhyd ag y bydd gennym lywodraeth all ddangos arweiniad a buddsoddiad strategol doeth. Allwn ni ddim bellach fynd ar ôl unrhyw swyddi waeth beth fo’r gost, oherwydd does dim swyddi ar blaned farw.

Does dim modd chwaith i’n buddsoddiadau economaidd gael eu taenu’n rhy denau: yn hytrach, mae arnom angen strategaeth sy’n canoli ar dechnoleg uchelgeisiol carbon-isel y gellir ei allforio. Mae’n debyg mai awyrofod gwyrdd, megis hediadau trydan pellter-byr a llongau awyr i gludo nwyddau, hydrogen a storio, tai sero-carbon a systemau ynni datganoledig fydd fwy neu lai yr unig dechnolegau o bwys yn y ganrif sydd i ddod, felly gadewch i ni fuddsoddi’n fentrus a beiddgar. Yn hytrach na thaflu mwy o goncrid i lawr, mae angen i ni fuddsoddi mewn cludiant cyhoeddus, teithio llesol a seilwaith gwyrdd. Mae ehangu cynhyrchu a chyflenwi bwyd yn lleol hefyd yn flaenoriaeth, fydd nid yn unig yn helpu ein ffermwyr a’n hiechyd, ond fydd yn sicrhau hefyd y bydd ein pridd, dŵr a’n hecoleg yn cael eu gwarchod. Yn hytrach na bod yn ddig oherwydd ein bod yn anadlu aer gwenwynig, beth am gyflwyno’r dechnoleg sy’n helpu i ddatrys yr argyfwng hinsawdd a’i werthu i’r byd?

Asedau Cymunedol

Mewn gwlad sydd a chymaint o dir sydd mewn dwylo cyhoeddus, dyw hi ddim yn iawn na all ein cymunedau ei ddefnyddio. Siaradwch ag unrhyw un yng Nghymru sydd wedi ceisio datblygu prosiect cymunedol gwyrdd, boed yn rhandir, coetir neu dyrbin gwynt, ac fe glywch yr un peth. Y system oedd y broblem fwyaf. Mae angen rhoi diwedd ar hyn dros nos.

Mae tir sydd mewn dwylo cyhoeddus yn ased yn ein brwydr yn erbyn newid hinsawdd. Yn hytrach na chael planhigfeydd dwys ar gyrion ein trefi, yn aml heb fawr ddim bioamrywiaeth, fe allent fod yn hafan i fywyd gwyllt, yng nghanol mannau sy’n tyfu bwyd i’r gymuned, tai arloesol ac amaeth-goedwigaeth i entrepreneuriaid ifanc. Pam dylen ni hedfan bwyd hanner ffordd o gwmpas y byd pan mae modd i ni ei dyfu ein hunain?

Atal y Dylifiad Dawn


Mae her nas gwelwyd ei bath o’n blaenau. Ond os yw ein gwleidyddion o ddifrif, gallwn greu system fydd yn rhoi gwell bywyd.  

Gall Cymru unwaith eto fod yn rym y tu ôl i chwyldro diwydiannol, y tro hwn gydag economi fydd yn ein gwneud yn iachach, yn hapusach ac a fydd yn darparu’r swyddi a sgiliau y mae ar ein pobl ifanc eisiau. Yn hytrach na gadael am fan gwyn fan draw, gall y gobeithion gorau i’n plant fod yma, yn eu cartrefi.

I wneud hyn oll, rhaid i Lywodraeth Cymru ddweud sut y bydd yn ymateb i alwadau Extinction Rebellion. Rhaid i ni fodloni ar ddim llai nac ymrwymiad i leihau yn sylweddol allyriadau nwyon tŷ gwydr, a hynny ar unwaith. Rhaid iddynt hefyd gefnogi sefydlu Cynulliad Dinasyddion. Mae hyn yn arbennig o bwysig ers i’r Comisiwn Newid Hinsawdd a sefydlwyd  yn 2007 dan glymblaid Plaid Cymru / Llafur –  ar gais Plaid Cymru  - gael ei ddileu. Mae Cynulliadau Dinasyddion yn ffordd o fonitro a chefnogi llywodraethau, busnesau a chyrff cyhoeddus i wneud yr hyn sydd raid.

Dyna’r hyn mae cenedlaethau’r dyfodol yn ei haeddu, ond mae’n cychwyn gyda’n gwleidyddion yn dweud y gwir am y sefyllfa rydym ynddi.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.