Uchelgais i’n Rheilffyrdd
Credwn y dylid datganoli seilwaith y rheilffyrdd i Gymru, fel yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, fel bod modd gwneud penderfyniadau am gynllunio seilwaith rheilffyrdd Cymru yng Nghymru.
Dim ond 1% o wariant cyfalaf Llywodraeth y DG sy’n mynd ar reilffyrdd yng Nghymru, sy’n danwariant cyfredol a hanesyddol. Tra bod Llundain a dinasoedd mawr yn yr Alban wedi eu cysylltu â rheilffyrdd a drydaneiddiwyd dros hanner canrif yn ôl, dim ond yn y ddegawd ddiwethaf y cafodd Cymru yr un filltir o drac wedi’i drydaneiddio.
Gyda’r arian ychwanegol hwn o £4,000,000,000, byddai modd i ni chwyldroi ein systemau rheilffyrdd a chludiant, gan gynnwys cysylltu’r de a’r gogledd yn iawn am y tro cyntaf yng Nghymru, ail-agor y prif reilffyrdd a gaewyd dan Beeching, trydaneiddio Prif Lein y Gogledd, gwella gwasanaethau rheilffyrdd presennol, a chynyddu a gwella gwasanaethau i’r gorllewin o Abertawe.
I wneud hynny, mae ar Gymru angen cynllun teithio uchelgeisiol sydd hefyd yn ystyried cysylltiadau cludiant cyhoeddus cymoedd y de ac ardaloedd eraill o Gymru sydd heb gysylltiadau rheilffordd - gan gynnwys trwy ddefnyddio tramiau neu reilffyrdd ysgafn.