Tegwch yn y Sector Rhentu Preifat
Yn y sector rhentu preifat, credwn mewn system o renti teg a rheoli rhenti fel eu bod yn fforddiadwy i bobl leol ar incwm lleol, ac nad yw unigolion a theuluoedd yn cael eu prisio allan o’r ardaloedd lle maent yn byw.
Byddai ein Deddf arfaethedig Hawl i Dai Digonol yng Nghymru yn cynnwys pwerau i gyflwyno mesurau rheoli rhenti ac ymyriadau eraill yn y farchnad i wneud tai yn fwy fforddiadwy.