Etholaeth: Llanelli

Rhodri Davies

Y darlledwr a’r newyddiadurwr Rhodri Davies yw ymgeisydd Plaid Cymru yn San Steffan dros Lanelli.

Yn wreiddiol o Ben-y-Mynydd, ger Trimsaran, bu Rhodri yn gweithio mewn tafarn, yn casglu sbwriel, ac yn athro, cyn dilyn gyrfa yn y cyfryngau. Dros dri degawd, mae wedi gweithio i’r BBC, ITV a chwmni Tinopolis yn Llanelli, sy’n gwneud rhaglenni i S4C a chynulleidfaoedd ledled y byd.