Rhun ap Iorwerth

Rhun ap Iorwerth

Gwefan Facebook Twitter Instagram TikTok Threads YouTube E-bost Gwefan y Senedd

Arweinydd Plaid Cymru

Etholaeth: Ynys Môn

Cafodd Rhun ap Iorwerth ei ethol gyntaf yn aelod dros Ynys Môn mewn is-etholiad ym mis Awst 2013. Ym mis Mehefin 2023, daeth yn Arweinydd Plaid Cymru.

Cafodd ei eni yn Nhonteg ger Pontypridd cyn symud i Sir Feirionydd, ac yna i Ynys Môn. Cafodd ei addysg yn Ysgol David Hughes a Phrifysgol Caerdydd, lle graddiodd mewn Gwleidyddiaeth a Chymraeg. Yn rhugl yn y Gymraeg a Saesneg, mae'n briod ac mae ganddo dri o blant. Mae’n ymddiddori mewn ystod o chwaraeon ac yn cyfaddef ei hun i fod yn gerddor amatur!

 Bu Rhun yn newyddiadurwr a darlledwr am bron i 20 mlynedd cyn cael ei ethol. Ymunodd â BBC Cymru ym 1994, gan dreulio cyfnod yn San Steffan cyn dychwelyd i Gymru wedi pleidlais datganoli 1997. Bu’n Brif Ohebydd Gwleidyddol, yn ohebydd rheolaidd i Newyddion Rhwydwaith y BBC, a chyflwynodd ystod eang o raglenni teledu a radio, yn Gymraeg a Saesneg.

 Ers ei ethol gyntaf, mae Rhun wedi treulio cyfnodau fel Gweinidog Cysgodol Dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Iechyd a Gofal, a Chyllid, ac fel aelod o’r pwyllgorau cyfatebol yn y Cynulliad a’r Senedd. Bu hefyd yn aelod ar wahanol adegau o’r Pwyllgorau Cyfrifon Cyhoeddus, Deisebau a Safonau, yn ogystal ag yn un o Gomisiynwyr y Senedd.


Cynnwys digidol // Digital material

Oni nodir yn wahanol, caiff y cynnwys a gyhoeddir ar y gwefannau canlynol ei hyrwyddo gan Rhun ap Iorwerth, 1B Stryd yr Eglwys, Llangefni, LL77 7DU.

Unless otherwise stated, the content published on the following sites is promoted by Rhun ap Iorwerth, 1B Stryd yr Eglwys, Llangefni, LL77 7DU.