Rhwydwaith Seren

Bydd Plaid Cymru yn adolygu rhaglen Seren, sydd â’r nod o gefnogi disgyblion chweched dosbarth disgleiriaf Cymru, i’w gwneud yn haws i ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig gymryd rhan yn Rhwydwaith Seren, a’i asio’n well a’r cyfleoedd a gynigir gan Sefydliadau Addysg Uwch Cymru. Byddwn yn cynnig ysgolion haf ym mhob prifysgol yng Nghymru i ddysgwyr Seren Sylfaen; yn ehangu’r partneriaethau presennol gyda phrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd ac yn sefydlu cynlluniau peilot newydd mewn sefydliadau Cymreig eraill.

Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar: darllen mwy