Cynnydd mewn troseddau casineb yn erbyn y gymuned LDHT yng Nghymru angen ei drechu ar frys

221019.jpg

Rhaid mynd i’r afael â’r cynnydd mewn troseddau casineb yn erbyn pobl LDHT yng Nghymru a hynny ‘ar frys’ meddai Plaid Cymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, cofnodwyd 3,932 o droseddau casineb yng Nghymru - yr uchaf eto ar gyfer troseddau casineb yng Nghymru a bron i ddwbl y ffigurau er 2013. Mae troseddau casineb yn erbyn y gymuned LDHT yn benodol wedi cynyddu 12% o 670 i 751 dros y blwyddyn diwethaf.

Yn ogystal â buddsoddi mewn mesurau ataliol ac edrych ar y gwahaniaeth mewn adnoddau sydd eu hangen i fynd i'r afael â throseddau casineb ledled Cymru, mae ACau Plaid Cymru, Sian Gwenllian a Leanne Wood, wedi dadlau y byddai datganoli cyfiawnder i Gymru yn gallu sicrhau ‘dull integredig’ o fynd i'r afael â throseddau casineb LGBT ac amddiffyn pobl LDHT yng Nghymru yn well.

Ym mis Gorffennaf, bu aelod o glwb LDHT i bobl ifanc a gynhaliwyd gan yr elusen Gisda o Gaernarfon yn destun ymosodiad homoffobig ac ymosodwyd arno mewn arhosfan bysiau ar ôl gadael sesiwn yn y clwb. Yn fuan ar ôl yr ymosodiad, dywedodd aelodau’r clwb ieuenctid eu bod yn teimlo na allent ddychwelyd i’r clwb oherwydd y casineb yr oeddent yn ei dderbyn.

Meddai AC Plaid Cymru’s Sian Gwenllian dros Arfon,

“Mae pryder difrifol ynghylch y diffyg adnoddau sydd eu hangen i fynd i’r afael â throseddau casineb ac mae’r anghydraddoldeb mewn cefnogaeth ledled Cymru yn golygu bod adnoddau’n dameidiog ac yn destun i ‘loteri cod post ’. Er enghraifft, clwb ieuenctid LDHT Gisda yw’r unig un o’i fath yn Gwynedd gyfan a’r unig un sy’n darparu lle i aelodau Cymraeg eu hiaith.

“Er yn ystyrlon yn ei bwriad, mae Llywodraeth Cymru wedi methu â gwir amgyffred yr angen i fynd ar wraidd y broblem wrth fynd i’r afael â throseddau casineb a dim ond rhywbeth dros-dro yw eu datrysiadau. Mae ganddyn nhw fframwaith ar gyfer mynd i’r afael â throseddau casineb ond nid ydym wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am ei gynnydd ers bron i ddwy flynedd.

“Yn y cyfamser, mae angen mesurau ataliol i sicrhau diogelwch ein cymunedau ac i weld ffigurau troseddau casineb yn gostwng yn barhaol. Er enghraifft, byddai gwersi mewn addysg perthnasoedd a rhyw yn golygu bod plant yn ennill dealltwriaeth glir o amrywiaeth bodau a pherthnasoedd iach, cymdeithasol.

Meddai Leanne Wood AC, gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol,

“Er bod agweddau cymdeithasol a’r gyfraith wedi symud ymlaen yn sylweddol dros y degawdau diwethaf, rydym yn parhau mewn sefyllfa lle nad yw pobl ifanc yn teimlo y eu bod nhw’n gallu cael eu derbyn am bwy ydyn nhw yn eu cymunedau eu hunain. Maent yn dal i wynebu rhagfarn, camdriniaeth ac elyniaeth yn ddyddiol.

“Sut allwn ni ddweud wrth bobl ifanc y cânt eu derbyn pan ddônt allan pan na allwn eu hamddiffyn rhag troseddau casineb?

“Mae’r system cyfiawnder troseddol bresennol ‘Cymru a Lloegr’ yn methu ein cymunedau ac nid yw’n gweithio i Gymru. Mae angen newid arnom - a grym a chyfrifoldeb llawn dros gyfiawnder troseddol i'n galluogi i adeiladu ein system ein hunain yng Nghymru sy'n gweddu i anghenion ein dinasyddion.

“Gallai Cymru greu system decach, drawsnewidiol a fyddai’n esiampl o gyfiawnder ledled y byd a sicrhau dull integredig o fynd i’r afael â throseddau casineb LGBT ac amddiffyn pobl LGBT yng Nghymru.

Ychwanegodd Arfon Jones, Heddlu Gogledd Cymru a Chomisiynydd Trosedd,

“Bu cynnydd mewn adrodd troseddau casineb homoffobig i Heddlu Gogledd Cymru dros y pum mlynedd diwethaf. Rwy'n gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid i barhau i godi proffil troseddau casineb ac annog adrodd ar y troseddau hyn.

“Rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau bod darpar droseddwyr yn deall na fydd y math hwn o drosedd yn cael ei ddioddef.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.