Rhoi Diwedd ar Sancsiynau Budd-daliadau

Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu newidiadau arfaethedig y Ceidwadwyr i’r Asesiad Medr i Weithio a’u cynllun ‘Nôl i’r Gwaith’, sydd eto fel petai yn beio pobl am fod yn sâl a methu gweithio fel y dymunant. Yr ydym yn gwrthod disgwrs beio pobl am yr amgylchiadau maent ynddynt.

Mae sancsiynau budd-daliadau ac oedi cyn derbyn Credyd Cynhwysol yn arwain at galedi, ac nid yw hyn yn helpu pobl i ddychwelyd i waith. Dylid cwtogi’r amserlen am dderbyn taliadau cyntaf Credyd Cynhwysol fel nad yw unigolion a theuluoedd yn syrthio i ormod o ddyled, a dylai ad-daliadau weithredu ar sail cefnogi pobl.

Lles: darllen mwy