Plaid Cymru i gwrdd yng Nghasnewydd am eu Cynhadledd Wanwyn
Bydd Plaid Cymru yn cynnal eu Cynhadledd Wanwyn yng Nghasnewydd ar Fawrth 3 a 4, gan ddwyn aelodau etholedig ac ymgyrchwyr lleol ynghyd cyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai. Cynhelir y Gynhadledd yng Nghanolfan y Riverfront, Casnewydd, a bydd yn gosod allan weledigaeth Plaid Cymru i sicrhau’r fargen orau oll i gymunedau Cymru.
Meddai Steffan Lewis, AC Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru:
“Mae’n wych croesawu aelodau ac ymgyrchwyr Plaid Cymru o bob cwr o Gymru i Gasnewydd ar gyfer y Gynhadledd Wanwyn cyn yr etholiadau llywodraeth leol eleni. Bydd aelodau etholedig ac ymgeiswyr yn dod ynghyd i rannu eu hawydd i gryfhau a gwella cymunedau Cymru a’n gwasanaethau lleol.
“Gwasanaethau cyhoeddus lleol o ansawdd dda yw’r allwedd i ffyniant a lles ein cenedl. Mae’n golygu fod ein plant yn cael yr addysg orau oll; fod parciau a mannau gwyrdd ar gael i bawb eu mwynhau; fod ein strydoedd yn lân a diogel; a bod ein perthnasau oedrannus yn cael gofal.
“Mae gan Blaid Cymru record falch o lwyddo’n lleol. Lle mae Plaid Cymru yn rhedeg llywodraeth leol, rydym yn darparu gwasanaethau ardderchog ac yn arwain Cymru mewn meysydd mor amrywiol â thai cymdeithasol, addysg a strydoedd glân. I godi Cymru newydd, y lle gorau i ddechrau yw wrth ein traed, yn ein cymunedau lleol.
“Mae Plaid Cymru yn blaid leol, yn brwydro ar lawr gwlad mewn cymunedau i wneud bywydau beunyddiol pobl yn well. Mae’r etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai yn gyfle i bobl yng Nghymru anfon neges na fydd ein lleisiau bellach yn cael eu hanwybyddu, na fyddwn yn sefyll yn llonydd tra bod gwasanaethau hanfodol yn cael eu cau, ac y gallwn adeiladu cenedl lanach a mwy gwyrdd. Bydd Plaid Cymru yn brwydro i wneud i wleidyddiaeth weithio unwaith eto i bawb.”