Rhybudd AC Plaid: ‘Peidiwch â cholli ewyllys da y nyrsys’
Rhaid i weinidogion Llywodraeth Cymru ymyrryd i atal cynlluniau dadleuol i newid rotas nyrsio yng ngogledd Cymru, yn ôl Plaid Cymru.
Petai’r cynlluniau yn cael eu cymeradwyo gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, byddai’n golygu gorfodi nyrsys a gweithwyr cefnogi gofal iechyd i weithio shifft ychwanegol yn ddi-dâl gan y byddai’r bwrdd iechyd yn gosod amser rhydd di-dâl arnynt.
Bydd AC Plaid Cymru dros Ogledd Cymru, Llyr Gruffydd, heddiw yn arwain dadl yn y Cynulliad yn galw ar weinidogion i weithredu.
Mae nyrsys ac undebau wedi ymateb yn ffyrnig, gan beri i Blaid Cymru gyflwyno’r ddadl heddiw [Mercher, 18 Medi].
Meddai AC Plaid Cymru dros Ogledd Cymru, Llyr Gruffydd:
“Mae’r cynigion hyn mewn gwirionedd yn disgwyl i nyrsus fod ar alwad trwy gydol eu hamser rhydd di-dâl a byddant yn golygu hanner awr ychwanegol di-dâl bob shifft. Nid yw hyn yn dderbyniol pan fod nyrsus eisoes yn gweithio oriau maith dan bwysau, ac un o’r rhesymau pennaf am hyn yw bod un swydd o bob 10 yn wag yn y bwrdd iechyd.
“Dywedodd un nyrs wrthym mai dyma fyddai’r hoelen olaf yn yr arch i nyrsus ac y mae’n amlwg o’r ymateb i ddeiseb y Blaid a lofnodwyd gan 3,300 o bobl fod llawer o nyrsus yn cytuno â hi.
“Rwy’n bryderus iawn fod y bwlch rhwng yr uwch-reolwyr a staff rheng-flaen mor fawr fel nad ydynt yn sylweddoli mai colli ewyllys da’r nyrsus yw’r pris y byddant yn dalu am y newid hwn. Mae ysbryd nyrsus yn isel - bydd hyn yn ei ostwng fwy fyth. Mae’n hanfodol cynnal ewyllys da ymysg y 4,095 o staff nyrsio y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnynt yn hanfodol os yw’r GIG yn y gogledd am lwyddo.
“Dyna pam fy mod wedi galw’r ddadl. Rwyf eisiau i’r gweinidog iechyd Vaughan Gething wrando ar y sawl sydd ar y rheng flaen, ar y cleifion a’r cyhoedd yn gyffredinol sydd yn cefnogi ein nyrsus ardderchog. Os bydd y bwrdd iechyd yn ceisio gwthio’r newidiadau hyn drwodd, rwyf eisiau i’r gweinidog iechyd ymyrryd. Bu Betsi mewn mesurau arbennig ers dros bedair blynedd bellach ac y mae dan reolaeth uniongyrchol adran y gweinidog iechyd. Gall ef atal hyn rhag digwydd.”