7 ffaith anghywir am ddi-gartrefedd

_105238735_tents5.jpg

Dyma saith anwiredd am ddigartrefedd sydd angen eu cywiro - yn gyflym. 

Anwiredd 1: Mae pobl yn dewis cysgu allan – a ddylech chi mo’u hannog trwy roddion neu roi pebyll.

Ffaith: Bu pwnc pobl yn rhoi pebyll i gysgwyr allan wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar yn dilyn sylwadau cyfarwyddwr canolfan Huggard a ddadleuodd ei fod yn golygu fod pobl yn llai tebygol o geisio help. Gwelsom sylwadau tebyg gan Carwyn Jones a ddywedodd ym mis Rhagfyr 2017 fod, ar ymweliad diweddar ag elusennau digartref: “…yn glir fod rhai pobl wedi byw ar y strydoedd am flynyddoedd, ac i rai pobl, ymddengys bod hyn yn ddewis maent yn wneud”

Mae’r farn hon yn hynod debyg i un Ronald Reagan, a ddywedodd ym 1988: “Maent yn gwneud eu dewisiadau eu hunain i aros allan yna ……… Mae llochesi ym mhob dinas, bron, a llochesi yma, ac y mae’n dal yn well gan y bobl hyn fod allan ar y gratiau neu’r lawnt na mynd i un o’r llochesi hyn.''

Yn anffodus, mae hyn yn simplistig ar y gorau. Mae digon o ymchwil ar gael i ddangos pam nad yw rhai cysgwyr allan yn mynd at lety mewn argyfwng, a llawer ohono’n canolbwyntio ar y ffaith fod llawer o lochesi i bob pwrpas yn llefydd anniogel lle nad yw pobl yn cael goruchwylio na’u cynnal. Dywedodd y Dr Peter Mackie wrth y pwyllgor cydraddoldeb, cymunedau a llywodraeth leol mai un o’r “cyfyngiadau allweddol ar y gwasanaethau presennol yng Nghymru” yw “cefnogaeth anaddas, absennol neu annigonol”. Tynnodd sylw at y ffaith nad oes rheidrwydd statudol ar awdurdodau lleol i gwrdd ag anghenion cefnogaeth tai’r gymuned ddigartref, gan gynnwys cysgwyr allan. O’r herwydd, mae llawer o unigolion yn “mynd heb gefnogaeth”. Pwysleisiodd hefyd y gall “terfynau amser ar gefnogaeth fod yn arbennig o broblemus”.

Mae’n werth cofio hefyd mai un elfen fwyaf gweladwy It digartrefedd yw cysgwyr allan. Mae poblogaeth ‘gudd’ hefyd o bobl ddigartref sy’n cysgu ar soffas eu ffrinidiau, teuluoedd sydd wedi eu dal mewn llety gwely a brecwast dros dro, a phobl yn byw mewn llety mor wael fel ei fod yn gwneud eu hiechyd yn waeth. Amcangyfrifir fod 7,000 o bobl ifanc bob blwyddyn yn wynebu’r math hwn o ddigartrefedd cudd.


Anwiredd 2: Mae gan bobl ddigartref i gyd broblemau iechyd meddwl difrifol a/neu broblemau camddefnyddio sylweddau.

adult-art-blur-246805.jpg

Ffaith: Er ei bod yn sicr fod gan rai pobl ddigartref  broblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau, profiad cysgu allan ynddo’i hun sydd yn gallu bod yn drawmatig, gan arwain pobl i droi at alcohol neu gamddefnyddio sylweddau.

Fodd bynnag, mae’n hynod simplistig cymryd arnoch mai camddefnyddio sylweddau neu iechyd meddwl yw unig achosion digartrefedd. 

Ymysg rhesymau mae;

  • Teulu’n chwalu
  • Perthynas yn chwalu
  • Trais ac aflonyddu (e.e., gan gymdogion)
  • Colli llety cysylltiedig â swydd
  • Gadael carchar
  • Gadael gofal

Y gwir yw bod achosion digartrefedd yn niferus, cymhleth ac er y gall camddefnyddio sylweddau fod yn fecanwaith ymdopi a ddefnyddir gan rai cysgwyr allan, mae’n simplistig tybio mai dyma’r unig reswm fod pobl yn dod yn ddigartref.

 


Anwiredd 3: Does gan ddigartrefedd ddim i’w wneud â pholisi’r llywodraeth

4_Unemployment-figures.jpg

Mae llawer o Dorïaid yn dal heb fod yn derbyn eu toriadau hwy i fudd-daliadau a llymder sydd y tu ôl i’r cynnydd mewn digartrefedd yr ydym oll yn dystion iddo. Er bod digartrefedd yn bodoli yn 2009 cyn llymder Torïaidd, mae datgymalu’r wladwriaeth les - gyda thros 100 o newidiadau i nawdd cymdeithasol a oedd oll wedi lleihau hawl pobl i fudd-daliadau - wedi chwarae rhan allweddol mewn gwneud i ffwrdd â’r rhwydi diogelwch cymdeithasol yr oedd pobl yn dibynnu arnynt wrth ymdopi ag amgylchiadau megis cael eu troi allan o gartref, colli gwaith, neu berthynas yn chwalu. ‘’Yn ddiamau ‘mae cysgu allan wedi cynyddu, gydag amcangyfrifon bod cynnydd o 45%  mewn cysgwyr allan ers 2015, a chynnydd o 27% mewn aelwydydd  dan fygythiad o ddigartrefedd yn ôl adroddiadau’r awdurdodau lleol. Rhan fechan yn unig o’r broblem yw’r ffeithiau hyn, fel y mae unrhyw chwiliad google yn awgrymu.

Mae gan Crisis gynllun cynhwysfawr i ddiweddu digartrefedd ledled y DG, cynllun sydd yn cynnwys argymhellion ar gyfer pob haen o lywodraeth, gan gynnwys rhannau penodol i Gymru.


Anwiredd 4: Mae llawer o bobl sy’n cardota heb fod mewn gwirionedd yn ddigartref.

stream_img.jpg

Ffaith: Fe glywch hyn weithiau gan bobl sydd eisiau gwadu maint digartrefedd. Wrth gwrs, fe gewch broblem twyllwyr yn esgus bod yn ddigartref er mwyn cael rhoddion gan y cyhoedd, er nad yw hynny’n fy nharo i fel menter droseddol arbennig o broffidiol. Fodd bynnag, y mae problem ehangach yn effeithio ar y sector elusennol – twyllwyr hefyd yn esgus codi arian i ddioddefwyr canser, ond does neb yn dadlau fod hyn yn dweud nad oes angen gwir elusennau canser.


Anwiredd 5: Mae’n costio gormod i fynd i’r afael â chysgu allan

2_RJS_ECH_310119_homeless5JPG.jpg

Ffaith: I’r DG gyfan, amcangyfrifodd cynllun Crisis i ddiweddu digartrefedd fod cyfanswm costau diweddu digartrefedd rhwng 2018 a 2041 yn £19.3 biliwn, ond y byddai’n esgor ar fanteision ariannol o £53.9 biliwn. I Gymru, £535 miliwn yw’r gost honno ac y mae’n dwyn elw o £1.47 biliwn dros yr un cyfnod o amser. Byddai’r gyfradd elw honno yn ennill bonws 6 ffigwr yn ninas Llundain.

Fodd bynnag, mae un mater sydd angen i amlygu - mae awdurdodau lleol a nawdd cymdeithasol yn gyfrifol am gost atal digartrefedd a’i ddatrys ar frys, ond y mae costau gadael i ddigartrefedd ddigwydd a pharhau yn cael eu lledaenu ar draws y GIG, y systemau cyfiawnder cyfreithiol, a nawdd cymdeithasol. Mae meddwl mewn silos a phwysau cyllidebol yn cyfrif am fethiant i fuddsoddi mewn atal a datrys digartrefedd.

Ond yn anad dim, fel y dengys y sylwadau diweddar am gysgu allan, erys rhagfarn ymysg y sawl sy’n gwneud penderfyniadau am lle i fuddsoddi. Rhagfarn a ddangoswyd gan Crisis sydd yn costio biliynau o bunnoedd i chi - y trethdalwr.

 


Anwiredd 6: Mae pobl ddigartref yn beryglus.

abandoned-adult-black-and-white-384553.jpg

Ffaith: Mae’r ymchwil mewn gwirionedd yn dangos fod pobl ddigartref yn fwy tebygol o ddioddef ar law pobl beryglus. Canfu ymchwil i Crisis fod cysgwyr allan yn fwy na 17 gwaith yn fwy tebygol o ddioddef trais na’r cyhoedd yn gyffredinol, gydag ymchwil yn dangos , am gysgwyr allan, fod

  • Mwy nac 1 mewn 3 wedi eu bwrw neu eu cicio’n fwriadol neu wedi dioddef rhyw fath o drais tra’u bod yn ddigartref (35%)
  • Mwy nac 1 mewn 3 wedi cael pethau wedi eu taflu atynt tra’u bod yn ddigartref (34%)
  • Fod bron i 1 o bob 10 wedi cael rhywun yn gwneud dŵr arnynt tra’u bod yn ddigartref (9%)
  • Mwy nac 1 o bob 20 wedi dioddef ymosodiad rhywiol tra’u bod yn ddigartref (7%)
  • Mae bron i hanner wedi eu dychryn neu eu bygwth a thrais tra’u bod yn ddigartref (48%)
  • Mae bron i 6 o bob 10 wedi cael eu difenwi’n eiriol neu aflonyddu arnynt tra’u bod yn ddigartref (59%)

Anwiredd 7: Mae gan Gymru ddeddfwriaeth arloesol i helpu i atal digartrefedd.

Senedd_3.JPG

Ffaith: Er bod pethau cadarnhaol yn Neddf Tai (Cymru) 2014, yn enwedig cyflwyno dyletswydd i atal digartrefedd ar lefel awdurdod lleol, yr oedd y ddeddf arbennig honno yn gam yn ôl o’r hyn a gynigiwyd yn y Papur Gwyn gwreiddiol yn 2012.  Cadwodd y ddeddf brofion am flaenoriaeth angen, bwriadusrwydd a chysylltiad lleol wrth asesu a oes gan awdurdodau lleol ddyletswydd i ddarparu tai i unigolion. Mae hyn yn dal yn gam yn ôl ac yn anghydnaws â pholisi o dai yn gyntaf. Ers hynny, argymhellodd y pwyllgor cydraddoldeb, cymunedau a llywodraeth leol  wneud i ffwrdd ag angen blaenoriaeth fel y gall pawb gael cymorth. Yn hytrach na hyn, mae Llywodraeth Cymru eisiau adolygiad arall eto fyth i oedi cyn gweithredu.

Yr hyn sy’n peri mwy o bryder yw’r diffyg cyflawni ar y ddyletswydd o atal, sy’n amlygu’r problemau ehangach sydd gan Lywodraeth Cymru i drosi bwriadau da yn weithredoedd. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi astudiaeth ar y modd y bu awdurdodau lleol yn gweithredu eu dyletswyddau newydd i atal digartrefedd. Dyma’u casgliad:

“mae awdurdodau lleol yn ymateb i’r problemau a chosir gan ddigartrefedd gydag amrywiol raddau o lwyddiant, ond nid oes digon o ganolbwyntio ar atal achosion sylfaenol digartrefedd.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.