Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, wedi gofyn am fwy o eglurder ynglŷn â'r broses o wneud penderfyniadau yn sgil penderfyniad Llywodraeth Cymru i ariannu 1,800 o beiriannau diheintio osôn ar gyfer pob ysgol, coleg a phrifysgol yng Nghymru.

Ddydd Llun 30 Awst cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod “mwy na 1,800 o beiriannau diheintio oson a thros 30,000 o synwyryddion carbon deuocsid yn cael ei darparu ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru”.

Ddoe, adroddwyd mai “treial” oedd darparu'r peiriannau diheintio osôn hynod ddadleuol - er nad oes datganiad i’r perwyl hyn wedi ymddangos ar wefan Llywodraeth Cymru.

Wrth siarad â BBC Radio Cymru y bore yma, dywedodd Mr ap Iorwerth ei fod am wybod:

  1. Pa weithdrefnau fyddai'n gwarantu dim cyswllt dynol ag osôn – nwy gwenwynig iawn?
  2. Beth yw manteision dewis technoleg na ellir ond ei defnyddio pan nad oes neb o gwmpas – onid pan fydd disgyblion a staff yr ysgol yn bresennol y mae'r risg o haint ar ei huchaf?
  3. Pam dewis y dechnoleg hon pan fydd cynghorwyr y Llywodraeth ei hun yn awgrymu eraill e.e. golau UV?
  4. Pam mor hwyr yn y dydd - ychydig cyn i'r tymor newydd ddechrau?
  5. Beth yw'r gweithdrefnau caffael a ddilynir gan Lywodraeth Cymru?

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd, Rhun ap Iorwerth AS,

Nid yw negeseuon cymysg gan Lywodraeth Cymru ynghylch gweithdrefnau diogelwch ysgolion yn gwneud fawr ddim i dawelu meddwl y cyhoedd bod gan y llywodraeth afael ar ei mesurau diogelwch.

“Ddyddiau cyn i ysgolion ddod yn ôl, clywsom y byddai'r llywodraeth yn cyflwyno bron i 2,000 o beiriannau diheintio osôn newydd sbon a dadleuol iawn ym mhob lleoliad addysgol yng Nghymru. Nawr rydym yn clywed nad yw hyn yn digwydd. Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn glir ynghylch y gweithdrefnau caffael a arweiniodd at y sefyllfa gywilyddus hon.

“Mae gan y Llywodraeth gyngor clir eisoes gan ei grŵp cynghori technegol,  ond ble mae'r cyfarwyddiadau i ysgolion, colegau a phrifysgolion ar ddefnyddio  monitorau CO2, awyru adeiladau'n briodol a hyd yn oed gwneud pethau mor sylfaenol â dweud wrth y plant i wisgo dillad cynhesach i ganiatáu agor ffenestri?

“Wrth i Lywodraeth Cymru barhau i benderfynu ar ei phrotocolau diogelwch, bydd ein plant eisoes yn ôl i'r ysgol, heb fawr o newid yn y canllawiau i'w cadw'n ddiogel.”