Fe wnaeth gwelliant aml-bleidiol i Araith y Frenhines i gadw'r Deyrnas Gyfunol yn y Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau gael ei drechu ar y 29ain o Fehefin 2017 o 101 pleidlais i 322.
Fe gefnogodd Plaid Cymru, y Blaid Werdd, yr SNP a rhai Aelodau Seneddol Llafur o'r meinciau cefn y gwelliant, ond cyfarwyddodd arweinwyr y Blaid Lafur eu Aelodau Seneddol nhw i ymatal, tra bod y Torïaid oll wedi gwrthwynebu’r gwelliant.
Fe bleidleisiodd yr 8 AS Ceidwadol Cymreig yn erbyn y gwelliant ac fe wnaeth 21 AS Llafur o Gymru ymatal. Dim ond saith Aelod Seneddol Llafur oedd yn fodlon gwrthwynebu Corbyn a Carwyn i bleidleisio gyda Plaid Cymru o blaid y gwelliant.
Mae rhyw 200,000 o swyddi yng Nghymru yn dibynnu ar fasnach y wlad gyda’r Farchnad Sengl. Byddai cael ei llusgo allan o’r Farchnad Sengl gan Lywodraeth y DG yn peryglu’r swyddi hyn.
Petai’r holl ASau sy’n cynrychioli etholaethau yng Nghymru, ynghyd â phob AS Llafur, wedi pleidleisio gyda Phlaid Cymru dros y gwelliant, byddai Llywodraeth y DG wedi ei threchu.
Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts wedi cyhuddo’r ASau Torïaidd a Llafur a fethodd â chefnogi’r gwelliant o ddewis eu plaid yn hytrach na’u gwlad.
Yn ei sylw wedi’r bleidlais, meddai Liz Saville Roberts:
“Yn wahanol i’r Deyrnas Gyfunol, mae Cymru yn allforiwr net o nwyddau, ac y mae rhyw 200,000 o swyddi ledled Cymru yn dibynnu ar ein masnach gyda’r Farchnad Sengl.
“Bydd gadael y Farchnad Sengl yn peryglu swyddi a chyflogau dinasyddion Cymru, ac o fethu â chefnogi’r gwelliant hwn, mae Aelodau Seneddol Llafur a Thorïaidd wedi dewis rhoi eu plaid cyn buddiannau eu gwlad.
“Roedd gennym gyfle i amddiffyn swyddi a chyflogau ein dinasyddion, a phetai’r Blaid Lafur a phob Aelod Seneddol o Gymru wedi pleidleisio gyda Phlaid Cymru dros y gwelliant hwn, buasem wedi trechu Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Yn hytrach, maent wedi rhoi rhwydd hynt i’r Toriaid unwaith eto, gan adael iddynt beryglu swyddi Cymreig a chyflogau Cymreig.
“Roedd gan ASau Llafur a Thorïaidd ddewis rhwng pleidleisio dros fuddiannau cenedlaethol Cymru neu ufuddhau i orchmynion Corbyn, Carwyn Jones a Theresa May. Mae’r sawl a ddewisodd roi eu plaid cyn eu cenedl wedi dangos yn union i ni pam fod arnom angen mwy o Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn San Steffan fydd byth yn cael eu gorchymyn i bleidleisio yn erbyn buddiannau cenedlaethol Cymru.
“Pleidleisiodd pob Aelod Seneddol Plaid Cymru dros fuddiannau ein hetholwyr ac fe fyddwn yn parhau i wneud hynny, ar ein perthynas gydag Ewrop ac ar bob pwnc arall, bob cyfle a gawn, trwy gydol gweddill y Senedd hon.”