Sioned Williams

Sioned Williams

Gwefan Facebook Twitter Instagram LinkedIn YouTube E-bost Gwefan y Senedd

Rhanbarth: Gorllewin De Cymru

Portffolio: Cyfiawnder Cymdeithasol a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae Sioned Williams yn byw yn yr Alltwen yng Nghwm Tawe a bu’n Gadeirydd Cyngor Cymuned Cilybebyll cyn cael ei hethol yn Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru yn Etholiad 2021. Wedi’i magu yng nghymoedd Gwent, cafodd Sioned ei haddysg yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Ar ôl graddio gydag Anrhydedd Cyfun yn y Gymraeg a’r Saesneg o Brifysgol Aberystwyth, dyfarnwyd Ysgoloriaeth T.Glynne Davies S4C iddi i astudio am ddiploma ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu Sioned yn newyddiadurwr gyda BBC Cymru cyn mynd i weithio i Brifysgol Abertawe yn gyntaf fel Swyddog Polisi Iaith Gymraeg ac yna fel Rheolwr Cyfathrebu a Datblygu yn Academi Hywel Teifi. Fel rhan o’i gwaith yn y Brifysgol, bu’n helpu i sefydlu a chyd-reoli Tŷ’r Gwrhyd, canolfan Gymraeg Cwm Tawe ym Mhontardawe. Mae hi hefyd wedi gweithio i Blaid Cymru fel Pennaeth Cyfathrebu Strategol.

Polisïau uchelgeisiol Plaid Cymru i greu Cymru fwy cyfartal, mwy cyfiawn yw’r hyn a ysgogodd Sioned i fentro i fyd gwleidyddiaeth. Mae’n gobeithio bod yn rhan o genhedlaeth o fenywod o fewn y mudiad cenedlaethol a fydd yn sicrhau bod democratiaeth Gymreig yn cael ei dyfnhau, ei hamrywio a’i hehangu a’i phrif flaenoriaeth yw mynd i’r afael â’r lefelau cywilyddus o dlodi yng Nghymru. Mae hi’n credu mai sosialaeth ddemocrataidd – sydd wrth galon gweledigaeth Plaid Cymru ar gyfer Cymru Annibynnol – yw’r unig ffordd y gallwn warantu urddas a chyfleon cyfartal i bawb.

Hi yw Cadeirydd pedwar Grŵp Trawsbleidiol y Senedd: Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Drais yn erbyn Menywod a Phlant; Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Hawliau Dynol; Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Anabledd Dysgu a Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Hawliau Defnyddwyr.

Y tu allan i wleidyddiaeth, mae Sioned yn adolygydd a sylwebydd adnabyddus ar ddarlledu a’r celfyddydau ar gyfer y cyfryngau darlledu a phrint Cymraeg ac wedi beirniadu Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol a chystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Mae’n gyn-Gadeirydd y Panel Bwrsariaethau Llenyddiaeth Cymru ac yn un o ymddiriedolwyr Cronfa Goffa Saunders Lewis. Mae hi'n briod ac mae ganddi ddau o blant.