Cefnogi ein Staff Cyfiawnder

Mae Plaid Cymru yn cydnabod fod heddweision, swyddogion carchar a staff y gwasanaeth prawf oll yn gweithio’n galed dros eu cymunedau i roi’r gwasanaeth gorau posib.

Gall hyn olygu eu peryglu eu hunain neu wynebu bygythiad o niwed iddynt eu hunain trwy geisio lleihau’r risg o anaf neu niwed i eraill.

Byddwn yn parhau i roi cefnogaeth seiliedig ar yr arferion gorau i heddweision a swyddogion carchar wrth eu gwaith er mwyn ymdopi â thrawma a heriau ymdrin â’u tasgau beunyddiol, yn ogystal ag amgylchiadau anarferol neu arbennig o anodd a all hefyd godi wrth gyflawni eu dyletswyddau.

Awn i’r afael â phroblemau cadw staff yn y gwasanaethau prawf a charchar trwy ostwng oedran pensiwn swyddogion carchar o 68.

Cyfiawnder Troseddol a Phlismona: darllen mwy