Cefnogi Staff a Dysgwyr
Mae diogelwch dysgwr a staff yn ein hysgolion hefyd yn flaenoriaeth i Blaid Cymru, a’n cred ni yw, trwy fuddsoddi yn y gweithlu a’r gefnogaeth sydd ar gael i athrawon, y bydd hyn yn creu amgylchedd dysgu diogel i bawb. Rhaid dileu bwlio, hiliaeth a homoffobia o’n hysgolion - ac o’r gymdeithas yn ehangach.
Mae’n hanfodol adolygu gweithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru a’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol, er mwyn sicrhau cysondeb o ran yr addysg a’r gefnogaeth a gaiff dysgwyr lle bynnag y maent yng Nghymru. Mae hyn hefyd yn golygu darparu’r hyfforddiant a’r adnoddau i’r gweithlu, i ofalu bod gan athrawon a chymorthyddion dysgu y gallu i gyflwyno’r newidiadau sydd eu hangen. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi gwario cyfalaf ar uwchraddio ysgolion a chodi rhai newydd.
Does dim rheswm pam y dylai ysgolion preifat sy’n codi ffioedd dderbyn cefnogaeth ychwanegol gan drethdalwyr. Buasem ni yn dileu statws elusennol ysgolion preifat ac yn codi TAW ar ffioedd, gan wneud i ffwrdd â’r rhyddhad o ardrethi busnes.