Datganiad Plaid Cymru ar y sefyllfa ym Mhalesteina ac Israel

Mae llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Rhyngwladol, Hywel Williams AS, wedi rhyddhau datganiad ar y sefyllfa ym Mhalestina ac Israel.

"Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at y bobl ddiniwed sydd wedi cael eu dal yn y trais erchyll ym Mhalestina ac Israel dros y dyddiau diwethaf. Rydym yn condemnio’r streiciau awyr ar Gaza ac ymosodiadau rocedi Hamas yn erbyn ardaloedd preswyl, sydd wedi arwain at farwolaethau cymaint o bobl ddiniwed, gan gynnwys plant. Rhaid i'r defnydd o drais yn erbyn sifiliaid ddod i ben ar unwaith.

"Mae troi allan Palestiniaid o’u cartrefi yn Nwyrain Jerwsalem yn anghyfreithlon o dan gyfraith ryngwladol a rhaid ei gondemnio mor gryf â phosibl. Rydym yn annog llywodraeth Israel i ystyried ei chyfrifoldebau cyfreithiol yn ofalus yn ogystal â'r goblygiadau ehangach y gallai hyn eu cael i ymdrechion heddwch yn y rhanbarth.

"Mae gan y DU rwymedigaeth foesol a chyfreithiol i gynnal cyfraith ryngwladol, ac fel aelod parhaol o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, i wneud popeth yn ei gallu i hwyluso datrysiad heddychlon. Bydd Plaid Cymru yn parhau i weithio i hyrwyddo'r dyletswyddau hynny."