Os ydych yn parchu ein hardaloedd diwydiannol, rhowch y gorau i wneud tro gwael â’r glowyr

WhatsApp_Image_2019-03-15_at_11.25.55_AM.jpeg

Mae AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, wedi cyhuddo Llywodraeth San Steffan o wneud tro gwael â chyn-lowyr mewn dadl yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae Mr Edwards ers tro wedi cefnogi adolygiad i’r sefyllfa bresennol yng nghyswllt cynllun pensiwn y glowyr. Helpodd Llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys gyn-lowyr i gyflwyno deiseb i Rif 10 Downing Street ar y mater ym mis Chwefror.

Cafodd y cynnig a drafodwyd neithiwr (10 Mehefin) gefnogaeth drawsbleidiol; fodd bynnag, wrth ymateb, dywedodd y Gweinidog nad oedd Llywodraeth San Steffan yn bwriadu adolygu’r sefyllfa.

Pan breifateiddiwyd Glo Prydain ym 1994, gwnaed trefniant rhwng Llywodraeth San Steffan ac ymddiriedolwyr cynllun pensiwn Glo Prydain ar drefniadau yn y dyfodol ar gyfer pensiynau o’r cynlluniau hyn. Gwarantodd Llywodraeth San Steffan na fyddai pensiynau craidd yn cael eu colli i lowyr na’u gweddwon, ac yn gyfnewid, cafwyd cytundeb y byddai’n derbyn 50% o unrhyw warged a gynhyrchwyd gan y cynllun pensiwn.

Gwrthododd yr adolygiad yn 2003 gan lywodraeth Lafur San Steffan ag addasu’r trefniant rhannu gwarged 50/50 a chadwodd y Llywodraeth Geidwadol bresennol at y safbwynt hwn. Fel ar fis Tachwedd 2018, derbyniodd Llywodraeth y DG dros £4.4bn dan y trefniadau rhannu gwarged ers 1994.

Derbyniodd glowyr £84 yr wythnos ar gyfartaledd o’r cynllun, gyda phensiynau o leiaf 6,000 o lowyr yn cael eu torri. Ym Mawrth, llofnododd 106,000 o ymgyrchwyr ddeiseb a gyflwynwyd i Downing Street, yn galw am i fwy o’r gwarged fynd i gyn-lowyr.

Yn y ddadl, dywedodd Jonathan Edwards AS:

“Y diwydiant glo a luniodd y Gymru’r ydym ni ei hadnabod heddiw. Cafodd ein tirwedd ei haflunio gan dipiau glo enfawr a heidiodd ein poblogaeth o’r Gymru wledig i’r meysydd glo, gan greu cymunedau bywiog, ond  rhai a rwygwyd gan greulondeb Thatcheriaeth. Erys Streic y Glowyr ym 1984 yn fyw yn fy nghof.

“Wyth oed yn unig oeddwn i ar y pryd ac yn amlwg heb ddeall beth oedd y grymoedd oedd ar waith. Fodd bynnag, gadawodd digwyddiadau’r flwyddyn honno a’u gwaddol argraff barhaol ar fy meddylfryd gwleidyddol."

Aeth Mr Edwards ymlaen i ddweud:

“Y teimlad cyffredinol yn y cymunedau glofaol hynny yw mai’r diweddaraf yw hyn mewn cyfres faith o anghyfiawnderau gan Lywodraeth Prydain yn erbyn y glowyr, eu teuluoedd a’r cymunedau glofaol.

“Effeithiwyd ar ryw 22,000 o bobl yng Nghymru gan y sgandal hwn. Yr oeddwn mor falch o gyflwyno’r ddeiseb yn galw am adolygiad brys i Downing Street ym mis Mawrth.

“Os yw’r Gweinidog yn gweld gwerth i waith caled y glowyr a ddioddefodd amodau dychrynllyd a’u rhan hanfodol o lunio’r cymunedau glofaol yr ydym yn byw ynddynt heddiw, ac o ystyried faint o amser aeth heibio ers yr adolygiad diwethaf, dylai Llywodraeth Prydain dderbyn y cynnig.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.