AS y Blaid yn galw ar Lywodraeth y DG i weithredu wrth i brinder o yrwyr HGV droi’n argyfwng

Mae llefarydd Plaid Cymru ar Brexit, Hywel Williams AS, heddiw (Gwener 24 Medi) wedi galw ar Lywodraeth y DG Government i  “roi eu hideoleg o gau mewnfudo i lawr o’r neilltu” ac ychwanegu gyrwyr HGV i’r Rhestr Prinder Galwedigaethau er mwyn ei gwneud yn haws i gwmnïau logi gyrwyr o dramor.

Cyhoeddodd BP ac Esso ar ddydd Iau fod nifer o orsafoedd petrol wedi cau oherwydd prinder o yrwyr HGV. Yr oedd hyn yn dilyn rhybuddion ar ddydd Mawrth gan Ian Wright, prif weithredwr y Ffederasiwn Bwyd a Diod, a ddywedodd y gallai defnyddwyr ddechrau sylwi ar brinder mewn dofednod, porc a chynhyrchion popty yn y dyddiau nesaf. Rhybuddiodd cwmni cyflenwadau meddygol sydd â’u pencadlys yng Nghaerffili ar ddydd Mercher y gallai prinder o yrwyr lorïau effeithio ar ofal y GIG i gleifion.

Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DG ar raglen Today Radio 4 y BBC  nad oedd Brexit yn rhan o’r broblem o recriwtio gyrrwyr HGV yn y DG, gan ddadlau yn hytrach fod bod ar wahân i’r Undeb Ewropeaidd wedi helpu i alluogi rhai o’r atebion. Fodd bynnag, mae Cymdeithas Cludiant y Ffyrdd (RHA) yn amcangyfrif fod 15,000 o yrwyr lorïau o’r UE wedi dychwelyd i’w gwledydd genedigol yn ystod y pandemig, ac na fu modd iddynt ddychwelyd yn dilyn cyflwyno rheolau mewnfudo llym ar derfyn y cyfnod trosiannol ar 31 Ionawr 2021.

Yn gyffredinol, mae’r RHA yn amcangyfrif fod y DG yn brin o ryw 100,000 o yrrwyr HGV.

Dywedodd Hywel Williams AS:

“Prinder bwyd a phrisiau uwch. Oedi i gyflenwadau meddygol yn rhoi pwysau ar ein GIG. Gorsafoedd petrol yn cau a hynny’n arwain at brynu mewn panig ledled Prydain. Mae argyfwng y gadwyn gyflenwi yn gwaethygu - ac eto mae’r Torïaid yn San Steffan yn dal i gladdu eu pennau yn y tywod.

“Methiant y farchnad yw hyn, wedi ei achosi gan San Steffan. Mae cyfuniad o greu polisi mewnfudo caeth wedi gadael yr UE, diffyg enbyd o flaengynllunio gan y Llywodraeth ac amodau gweithio erchyll i yrrwyr wedi creu storm berffaith a wnaed gan Lywodraeth y DG ei hun.

“I ddefnyddio iaith y Torïaid eu hunain - mae’n bryd iddynt yn awr gymryd rheolaeth o’r argyfwng hwn trwy ddefnyddio’r hyblygrwydd sydd ar gael trwy fecanweithiau’r Rhestr Prinder Galwedigaethau. Os ydynt eisiau osgoi tagu gweithwyr mewn argyfwng fydd yn gwaethygu y gaeaf hwn, rhaid i Lywodraeth y DG roi eu hideoleg o gau mewnfudo i lawr o’r neilltu a’i gwneud yn haws i gwmnïau logi gyrrwyr HGV o dramor.”