Sut mae Sefyll?
Dyma amlinelliad o'r broses rhwng gwneud y penderfyniad i sefyll, a bod eich enw yn ymddangos ar y papur pleidleisio fel ymgeisydd swyddogol i Blaid Cymru.
🔐 Aelodau Plaid Cymru
Am eglurhad pellach o'r broses o ymuno â'r gofrestr a sefyll i gael eich dewis fel ymgeisydd, ewch i plaid.cymru/sefyll_faq
1. Ymuno â'r Gofrestr Genedlaethol
Caiff unrhyw aelod o Blaid Cymru wneud cais i ymuno â'r Gofrestr Genedlaethol o Ymgeiswyr, ac mae'r broses yn cynnwys llenwi ffurflenni cais a chyfweliad ar-lein.
2. Hyfforddiant
Bydd hyfforddiant ar gael i'ch paratoi ar gyfer bod yn ymgeisydd.
3. Dewis ymgeiswyr
Bydd Etholaethau yn dewis ymgeiswyr lleol yn ôl proses ddemocrataidd fewnol fydd yn cynnwys hystings a phleidlais o aelodau'r Blaid yn yr Etholaeth.