System Fudd-daliadau Gymreig
Cred Plaid Cymru y dylid cael System Fudd-daliadau Gymreig, gydag achos cryf dros ddatganoli’r budd-daliadau hynny sydd agosaf at feysydd polisi sydd eisoes wedi eu datganoli, megis budd-daliadau iechyd a thai.
Gallai Cymru hefyd reoli gweinyddu budd-daliadau fyddai’n dal wedi eu cadw’n ôl, megis y Taliad Cymreig i Blant, tebyg i’r hyn sydd eisoes yn bod yn yr Alban i roi mwy o gefnogaeth wedi ei dargedu i deuluoedd mewn tlodi.