System Decach o Drethiant

Credwn y dylai Cymru fod â rheolaeth lwyr ar fecanweithiau economaidd, er mwyn tyfu ein heconomi a’i wneud yn fwy gwyrdd mewn modd fydd yn cael yr effaith fwyaf cadarnhaol ar ein cymunedau. Rydym am i’r Senedd gael pwerau i osod bandiau a throthwyau treth incwm, fel sydd eisoes yn digwydd yn yr Alban, fel y gallwn greu system sy’n addas i amgylchiadau Cymru.

Ar lefel y DG, rydym eisiau gweld baich y dreth yn disgyn ar yr unigolion a’r corfforaethau hynny sawl â’r ysgwyddau lletaf i dalu cyfran deg o’r dreth gyffredinol, yn hytrach na bod y baich yn disgyn ar y sawl sydd â llai o fodd.

Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelsom rai diwydiannau yn cynyddu eu helw yn sylweddol oherwydd amodau’r farchnad, ac nid o ganlyniad i’w buddsoddiadau a’u hymdrechion eu hunain. Dylai’r sectorau hyn, a chynhyrchwyr olew a nwy a’r cwmnïau ynni yn eu plith, gael eu trethu’n briodol, yn enwedig lle mae monopoli mewn gwirionedd neu gartel sydd yn rheoli’r cynnyrch. Tybiwn yn benodol y dylai cwmnïau ynni wyneb treth gorelw uwch, a byddwn yn cau’r tyllau dianc y maent yn manteisio arnynt ar hyn o bryd i osgoi hyn. Ar yr un pryd, byddwn yn hyrwyddo buddsoddi mewn ynni adnewyddol fel ffordd amgen.

Byddwn yn ail-gyflwyno’r cap ar fonysau bancwyr.

Byddai Plaid Cymru yn cyfartalu’r dreth enillion cyfalaf gyda’r dreth incwm, gan godi rhwng £12bn - £15bn. Byddwn yn ymchwilio i gynyddu cyfraniadau Yswiriant Gwlad y sawl sydd ar enillion uwch, ac yn cefnogi cyflwyno treth ar gyfoeth. Buasem yn gweithredu’n llym yn erbyn gochel ac osgoi talu trethi, ac yn cau unrhyw dyllau dianc i’r sawl nad ydynt yn preswylio ym Mhrydain.

Economi a Threthiant: darllen mwy