Taclo Digartrefedd

Bydd cwrdd â’r angen cymunedol am dai trwy gynyddu’r stoc tai hefyd yn gostwng nifer yr unigolion a’r teuluoedd sy’n wynebu digartrefedd yng Nghymru. Rhoesom flaenoriaeth yn y Senedd i daclo digartrefedd, ac yr ydym yn aros am ddeddfwriaeth newydd i’w ddatblygu yn dilyn y Papur Gwyn ar Dai a gyhoeddwyd yr hydref diwethaf.

Gan ddefnyddio’r model Tai yn Gyntaf ac ail-gartrefu sydyn, byddwn yn anelu at roi terfyn ar ddigartrefedd, gan gydnabod mai llawer o’r her yw nid dim ond y sawl sy’n cysgu ar y stryd neu mewn llety dros dro, ond y bobl hynny sy’n gorfod aros gyda chyfeillion a theuluoedd.

Un o’r heriau hyn yw mynd i’r afael â mathau o eiddo gwag neu heb eu defnyddio a allai fod yn gartref i rywun. Mae ymgyrchu Plaid Cymru wedi helpu i gynyddu’r premiymau ar dreth cyngor ar dai gwag, sydd wedi talu am grantiau i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy. Does dim rheswm da pam fod cymaint o dai yn cael eu cael eu gadael yn wag pryd y gallent fod yn gartrefi i unigolion a theuluoedd.

Credwn fod gan bawb yr hawl i fyw yn y gymuned lle cawsant eu magu. Mae Plaid Cymru wedi cefnogi pecyn o gamau i daclo her ail gartrefi a thai gwyliau yn ein cymunedau, gyda chryn effaith yn cael ei deimlo yn Ynys Môn, Gwynedd a Sir Benfro yn benodol, lle maent yn cyfrif am gyfran helaeth o’r stoc tai sydd ar gael.

Yr ydym wedi cyflwyno pwerau i awdurdodau lleol fynnu cofrestru newid defnydd eiddo i fod yn gartref gwyliau, a chyflwyno cap ar nifer yr ail dai a thai gwyliau mewn cymuned.

Bellach, mae sawl awdurdod lleol yng Nghymru wedi cyflwyno premiwm treth cyngor ar ail dai, gyda’r arian ychwanegol hwn yn mynd tuag at ddatblygu tai cymdeithasol i drigolion lleol. Rydym hefyd am gau tyllau dianc sy’n caniatáu i gartrefi gwyliau gymryd arnynt eu bod yn fusnesau gosod, er mwyn i ni sicrhau y gellir amddiffyn busnesau hunanarlwyo go-iawn.

Tai a Chynllunio: darllen mwy