Cwrdd â myfyrwyr nyrsio Bangor ar adeg o ofn am doriadau i ddysgu
Heddiw, cyfarfu Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon Siân Gwenllian a’r Gweinidog cysgodol dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Helen Mary Jones AC â myfyrwyr a darlithwyr yn Ysgol Gwyddorau iechyd Prifysgol Bangor, wrth i bryderon gynyddu ynghylch toriadau arfaethedig i’r tîm darlithio Anabledd Dysgu ym Mhrifysgol Bangor.
Darllenwch fwyAwgrymu fod y Prif Weindiog wedi camarwain y Cynulliad ar amseroedd aros
Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford yn gofyn iddo gywiro ei honiad fod y methiant i gwrdd â thargedau adrannau brys i’w briodoli i fwy o bobl yn cael eu derbyn - ffigwr a brofwyd bellach yn anghywir.
Darllenwch fwyGwrthod Bil Awtistiaeth yn gadael teuluoedd i lawr
Mae Plaid Cymru wedi mynegi ei ‘siom’ wrth i’r Bil Awtistiaeth gael ei wrthod gan y Cynulliad gan ddweud fod pobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd wedi cael eu ‘gadael i lawr’.
Darllenwch fwyPlaid yn galw ar Lafur i wrando ar ‘ddefnyddwyr’ nid ‘darparwyr’ ar y Bil Awtistiaeth
Gan gadarnhau y byddai ACau Plaid Cymru yn pleidleisio o blaid y bil awtistiaeth, mae gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros iechyd Helen Mary Jones AC wedi annog Llafur i wrando ar bobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd a chefnogi'r bil.
Darllenwch fwyDiffyg gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn gorfodi mamau fyndi wardiau seiciatrig heb eu babanod
Mae diffyg gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng ngogledd Cymru yn gorfodi i famau gael eu derbyn i wardiau seiciatrig heb eu babanod.
Darllenwch fwyAddysg Feddygol ym Mangor yn fuddugoliaeth i Blaid Cymru, medd Rhun ap Iorwerth
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi dweud ei fod wrth ei fodd wedi i Lywodraeth Cymru gadarnhau y bydd Prifysgol Bangor yn cynnig cyrsiau meddygol i fyfyrwyr o 2019 ymlaen, gan ddweud fod y cyhoeddiad yn fuddugoliaeth sylweddol i Blaid Cymru a’r gogledd.
Darllenwch fwy7 peth dyw Llafur ddim eisiau i ni wybod am y GIG y gaeaf hwn
Wrth i weithwyr y GIG baratoi am amser prysur dros fisoedd y gaeaf, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau sôn am y pwysau ychwanegol y gaeaf hwn ar ein gwasanaeth iechyd. Ond er bod y llywodraeth Lafur yn ddigon parod i ddweud wrthych pam fod rhestri aros hir, staff dan bwysau ac oedi cyn trosglwyddo gofal yn anorfod dros gyfnodau oeraf y flwyddyn, mae rhai pethau nad ydynt am i chi wybod …
Darllenwch fwyPlaid yn galw am dargedau amser ambiwlans i gleifion strôc yn dilyn Adolygiad Galwadau Oren y GIG
Helen Mary Jones AC ac ysgrifennydd cabinet cysgodol Plaid Cymru dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn ymateb i adolygiad o Alwadau i wasanaeth ambiwlans Cymru wedi’u categoreiddio’n oren.
Darllenwch fwy"Siom, a cholli cyfle" - Plaid Cymru yn ymateb i gyhoeddiad Bwrdd Iechyd Hywel Dda
Mae Plaid Cymru wedi ymateb i benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (UHB) i israddio ysbytai Llwynhelyg a Glangwili trwy alw ar Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru i ymyrryd a chyfuno gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.
Gan fod ymgynghoriad Gwasanaethau Trawsnewid Clinigol Hywel Dda ar y gweill, mae aelodau etholedig Plaid Cymru wedi cynnal nifer o 'Uwchgynhadleddau Iechyd' gydag ystod o glinigwyr er mwyn penderfynu ar y ffordd orau o ddarparu a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws y rhanbarth.
Yn dilyn cyhoeddiad heddiw gan HBB Hywel Dda, mae cynrychiolwyr Plaid Cymru wedi galw'r cynigion yn "siomedig" ac yn "golli cyfle i wirioneddol drawsnewid gofal iechyd a chymdeithasol."
Meddai Plaid Cymru fod "gwacter o wybodaeth" ar sut yn union bydd y gwasanaethau yn cael eu hintegreiddio, datrys recriwtio a darparu gwasanaethau. Galwodd cynrychiolwyr Plaid Cymru ar Ysgrifennydd Iechyd Llafur i ymyrryd er mwyn gwarantu gwelyau cymunedol a buddsoddiad cyfalaf.
Darllenwch fwyPlaid yn galw am weithredu gan y Llywodraeth ar gefnogaeth i Ofalwyr yng Nghymru
Daw galwad Dr. Lloyd yn dilyn cyhoeddiad yr wythnos diwethaf gan Ofalwyr Cymru o’u hadroddiad 'Adroddiad Dilyn y Ddeddf 2017-18', a nododd mai dim ond 3.5% o 370,000 o ofalwyr Cymru sydd wedi derbyn Asesiad Anghenion Gofalwyr, sydd yn elfen allweddol o’r ddeddfwriaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles.
Darllenwch fwy