Cymru fydd yr unig wlad yn y DG gyda chap cyflogau’r GIG
Mae Cymru ar y ffordd i fod yr unig wlad yn y DG gyda chap ar gyflogau gweithwyr y GIG, yn dilyn penderfyniad gan Lywodraeth Prydain i godi’r cap yn Lloegr.
Darllenwch fwyHerio’r Prif Weinidog i warantu dyfodol 60,000 o swyddi yn amaethyddiaeth Cymru
Mae Jonathan Edwards AS Plaid Cymru wedi defnyddio sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw i herio Theresa May dros ddyfodol sector amaethyddol Cymru a’r miloedd o swyddi mae’n gynnal.
Darllenwch fwy“Dim angen a dim eisiau” carchar Baglan, medd Plaid Cymru
Daw Cymru yn un o’r unig wledydd yn y byd fydd yn mewnforio carcharorion os bydd San Steffan yn llwyddo i osod uwch-garchar ar Bort Talbot.
Darllenwch fwyPlaid Cymru yn annog Llafur ranedig i “ddod i drefn”
Mae Plaid Cymru wedi annog y Blaid Lafur i “ddod i drefn” cyn Cyfnod Pwyllgor y Mesur Ymadael, wrth i 7 AS Llafur bleidleisio o blaid a 13 arall yn ymatal ar ail ddarlleniad y Mesur.
Darllenwch fwyMesur Ymadael yn “sarhad ar ddemocratiaeth”, medd Plaid Cymru
Bydd ASau Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn Mesur Ymadael yr UE Llywodraeth Prydain yn Nhŷ’r Cyffredin heno wrth i’w llefarydd ar Brexit, Hywel Williams alw’r Mesur yn “sarhad ar ddemocratiaeth”.
Darllenwch fwyDim ond 5 AS yn rhoi'u henwau ymlaen i eistedd ar Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan
Dim ond dau AS Llafur o gyfanswm o 28 sydd wedi cynnig eu hunain i eistedd ar Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin.
Darllenwch fwyMesur Diddymu: Economi’n cael ei aberthu ar allor ‘ffug-iwtopia fyd-eang’
Bydd Plaid Cymru heddiw (Iau 7 Medi) yn annog ASau San Steffan i roi’r economi o flaen ‘elw gwleidyddol sinigaidd’ wrth i Dŷ’r Cyffredin baratoi i drafod y Mesur Diddymu.
Darllenwch fwyYr IPPR yn ddamniol o reolaeth San Steffan dros Gymru
Mae adroddiad gan yr IPPR wedi rhoi dyfarniad damniol ar reolaeth San Steffan dros wledydd y DG, sy’n datgelu’r ffaith mai’r DG yw’r economi mwyaf anghytbwys yn Ewrop.
Darllenwch fwyCymru wedi’i gadael allan o fuddsoddiad y Llywodraeth mewn band llydan
Bydd chwe ardal ar draws Lloegr a’r Alban yn elwa o werth £10 miliwn o fuddsoddiad cyhoeddus mewn band llydan“ffibr-llawn”, gyda Chymru’n cael ei gadael allan o’r rhaglen yn gyfan gwbl, diolch i benderfyniad gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol.
Darllenwch fwy‘Rhaid i ni aros yn aelodau llawn o’r Undeb Tollau, yn barhaol' - Jonathan Edwards
Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan y Grŵp Seneddol Amlbleidiol ar Gysylltiadau â’r UE wedi rhoi gerbron achos pendant dros barhau yn aelod o Undeb Tollau’r UE. Dywed, os yw Prydain am adael yr Undeb Ewropeaidd, fod yn rhaid i ni barhau yn aelodau llawn o’r Undeb Tollau. Nid am gyfnod trosiannol yn unig, ond yn barhaol. Mae’r papur yn gosod allan ddeg her y mae’n rhaid i’r Llywodraeth fynd i’r afael â hwy i gyfiawnhau eu polisi o adael yr Undeb Tollau.
Darllenwch fwy