Uchelgais i Godi Tai Cymdeithasol
Mae angen i Gymru sicrhau bod y cyflenwad tai yn cwrdd ag anghenion y gymuned, ac felly, mae hyn yn golygu ehangu’n sylweddol swm y stoc tai cymdeithasol a bwrdeistrefol sydd ar gael, polisi fyddai’n help i fynd i’r afael â chodiadau mewn rhenti yn y sector rhentu preifat.
Ymgyrchodd Plaid Cymru i roi terfyn ar sgandal y Cynllun Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai oedd yn golygu bod awdurdodau lleol yn anfon incwm rhenti tenantiaid tai cyngor i San Steffan yn hytrach na’i ail-fuddsoddi mewn tai lleol. O ganlyniad, mae gan unarddeg o awdurdodau lleol gyfle bellach i godi eu tai cyngor eu hunain unwaith eto, a dylid eu cefnogi hwy a chymdeithasau tai i ddatblygu mwy o dai mor fuan ag sydd modd.
Mewn llywodraeth yng Nghymru, bydd Plaid Cymru yn datblygu cynllun i ehangu hyn yn sylweddol i gwrdd â’r angen am dai yn lleol ym mhob rhan o’r wlad, gan fynd at amrywiaeth o ffrydiau cyllido cyhoeddus a phreifat, a gweithio gyda chymunedau i ddarparu’r gymysgedd gywir o dai ledled Cymru.
Wrth gynllunio’r datblygiadau hyn, byddwn yn cymryd i ystyriaeth anghenion y gymuned leol am ofal iechyd, addysg a thrafnidiaeth, yn ogystal â digon o fannau gwyrdd a chyfleusterau chwarae yn lleol.