Nid yw’r targed erioed wedi ei gyrraedd: Plaid Cymru yn beirniadu Llywodraeth Cymru
Dengys ffigyrau newydd a gyhoeddwyd yr wythnos hon fod Llywodraeth Cymru unwaith eto wedi methu â chwrdd â’u targed amseroedd aros cancr.
Nid yw’r Llywodraeth Lafur erioed wedi cwrdd â’u targed amseroedd aros cancr, ac ni wnaeth y perfformiad wella na symud o gwbl llynedd.
Wrth wneud sylw am y ffigyrau newydd, dywedodd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhun ap Iorwerth:
“Unwaith eto, mae’r llywodraeth Lafur wedi methu eu targed ar ofal cancr. Dros dair blynedd yn ôl, addawodd y Prif Weinidog fod y targed ar fin ei gyrraedd, ac ers hynny, dirywio wnaeth perfformiad, ac nid oes unrhyw arwyddion y cyrhaeddir y targed fyth. Mae angen i bobl yr amheuir sy’n dioddef o gancr gael profion ynghynt a’u trin ynghynt os ydym am gynyddu cyfraddau goroesi. Fe ddylem o leiaf fod yn cyrraedd y cyfartaledd Ewropeaidd.
“Dyna pam yr ymrwymodd Plaid Cymru yn eu maniffesto i sicrhau fod cleifion yn cael diagnosis neu wybodaeth nad yw’r clefyd arnynt ymhen y 28 diwrnod a argymhellir, ac yr ydym wedi ymrwymo i weithredu argymhellion y tasglu cancr annibynnol.
“Gwaetha’r modd, dywedodd Llywodraeth Cymru nad ydynt yn cytuno â’r gweithwyr clinigol a’u bod yn credu na fyddai targed o’r fath o help – all rhywun ond dyfalu mai’r rheswm dros hyn yw yw na allodd y llywodraeth gyrraedd cymaint o’u targedau o’r blaen.”