Tegwch i’n Ffermwyr
Blaenoriaeth Plaid Cymru yw gwarchod dyfodol ein ffermydd teuluol. Hwy yw asgwrn cefn ein heconomi wledig, maent yn llunio ein hamgylchedd ac yn cynnal ein cymunedau a’n diwylliant.
Mae blynyddoedd o lanast economaidd Torïaidd wedi cyfrannu at gynnydd enfawr yng nghostau ffermydd, ac y mae cytundebau ôl-Brexit San Steffan wedi caniatáu i fwy o fewnforion rhad danseilio ein marchnadoedd cartref. Mae’r Torïaid hefyd wedi torri eu haddewid o “ddim ceiniog yn llai” i gyllid ffermio i Gymru, gan adael Cymru gannoedd o filiynau o bunnoedd yn waeth eu byd.
Fe rown feto i Gymru yn erbyn cytundebau masnach yn y dyfodol sy’n tanseilio cymunedau amaethyddol Cymreig.
Yr ydym wedi gwrthwynebu cynnig Llafur o Gynllun Ffermio Cynaliadwy am 10% o goed i’w plannu ar bob fferm, gan fynnu agwedd fwy hyblyg. Yr ydym hefyd wedi galw am ostyngiad yn y camau cyffredinol sydd eu hangen i fod yn rhan o’r cynllun, yn ogystal â symud ymaith oddi wrth y model ariannu ‘costau a ddaeth i ran/incwm a hepgorwyd’ nad yw’n rhoi digon o gymhelliant i ffermwyr ymuno â’r cynllun, at un sy’n cydnabod gwerth cymdeithasol y sector amaethyddol i’r iaith Gymraeg, y diwylliant a’r economi lleol. Gan weithio gydag undebau’r amaethwyr ac eraill, yr ydym wedi llwyddo i sicrhau y caiff y cynllun ei oedi am flwyddyn a’i adolygu er mwyn gwneud yn siwr y bydd yn gweithio i ffermio ac i natur.
Cafodd cynnig Plaid Cymru i ddileu’r rheoliadau NVZ (parthau agored i nitradau) ei drechu o fwyafrif bach yn y Senedd. Er hynny, yr ydym wedi llwyddo i gael oedi cyn eu gweithredu’n llawn tan y flwyddyn nesaf o leiaf. Gwnaethom hefyd sicrhau £20m o gyllid i helpu ffermwyr gyda chostau seilwaith, ac wedi perswadio’r llywodraeth i adolygu’r rheoliadau yn llawn. Yr ydym o blaid agwedd fwy cymesur a soffistigedig at reoliadau ansawdd dŵr gan ddefnyddio technegau newydd a chyfoes yn hytrach na chymryd agwedd o ffermio yn ôl y calendr.
Bydd Plaid Cymru yn cyflwyno agwedd ehangach at daclo’r diciâu mewn gwartheg, a fydd yn cynnwys rheoli’r clefyd mewn bywyd gwyllt.
Yn wyneb y bygythiadau cynyddol o du clefydau newydd mewn planhigion ac anifeiliaid, byddwn hefyd yn cefnogi camau i gryfhau rhwydweithiau gwyliadwriaeth y DG, gan gynnwys amddiffyn cyllideb gwyliadwriaeth sganio y DG.
Rhaid gwneud mwy i fynd i’r afael ag ymosodiadau gan gŵn ar dda byw. Byddwn yn cefnogi ail-gyflwyno deddfwriaeth ar aflonyddu ar dda byw y methodd Llywodraeth Geidwadol y DG â’i chwblhau yn y tymor Seneddol diwethaf.
Byddwn yn ceisio cyflwyno polisïau i wella tryloywder yn y gadwyn gyflenwi a chryfhau pwerau’r Dyfarnwr Bwydydd i fod yn fwy effeithiol wrth drin arferion annheg yn y gadwyn gyflenwi.
Byddwn yn sicrhau bod labelu bwyd yn adlewyrchu’n deg wlad y tarddiad, fel bod defnyddwyr yn gallu dewis bwyd sy’n ‘Gymreig’ ac nid ‘Prydeinig’ yn unig, fel y gallant wneud dewis ar sail o wybodaeth.
Mae elfen o dynnu allan i gynhyrchu bwyd yng Nghymru. Yn rhy aml, mae ein cynnyrch yn cael ei allforio i’w brosesu yn rhywle arall, sy’n golygu ein bod yn colli’r gwerth ychwanegol hwnnw y dylid ei gadw yn ein heconomïau lleol. Bydd Plaid Cymru yn parhau i hyrwyddo cyfleoedd i ddatblygu gallu prosesu lleol ac yn defnyddio polisi caffael i gwtogi cadwyni cyflenwi, torri ar filltiroedd bwyd, a chreu swyddi lleol.
Byddwn yn mynnu newidiadau i’r Rhestr Prinder Galwedigaethau er mwyn gwneud yn sicr y gall cynhyrchwyr yng Nghymru gael y gweithlu sydd ei angen i gynnal y diwydiant.