Tegwch i Gymru
Credwn fod annibyniaeth i Gymru yn benderfyniad i’w gymryd gan bobl Cymru, ac y dylai’r pŵer i alw refferendwm ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru orwedd gyda’r Senedd yng Nghaerdydd, nid gyda Llywodraeth y DG.
O fewn y strwythurau llywodraethiant presennol, byddai Plaid Cymru yn gwneud i ffwrdd a swydd anghyson Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac yn trosglwyddo’r pwerau sydd weddill i Lywodraeth Cymru. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn gweithredu fel llais San Steffan yng Nghymru, nid llais Cymru yn San Steffan. Nid yw Cymru yn israddol i San Steffan; mae gennym ein sefydliadau democrataidd ein hunain, ac nid oes arnom angen ‘sedd wrth fwrdd y Cabinet’.
Yn hytrach, dylid cael dyletswydd o gydweithredu a chydraddoldeb parch rhwng y llywodraethau yn y DG. Byddai hyn yn atal Llywodraeth y DG rhag gor-ymestyn: yn eu hatal rhag deddfu na gwneud penderfyniadau yng Nghymru heb gydsyniad Llywodraeth Cymru a’r Senedd.
Fel rhan hynny, dylai Confensiwn Sewel – sy’n golygu bod angen cydsyniad deddfwriaethol gan Gymru i San Steffan weithredu mewn meysydd datganoledig – gael ei wneud yn statudol, i atal y DG rhag deddfu mewn meysydd cymhwysedd deddfwriaethol. Dylid gwneud ni ffwrdd a’r cyfyngiadau presennol ar gyllid Llywodraeth Cymru – gan gynnwys y terfynau a osodir ar bwerau benthyca a buddsoddi Llywodraeth Cymru.
Byddwn yn amddiffyn pwerau’r Senedd trwy Fil Llywodraethu Cymru (Pwerau Datganoledig), fydd yn mynnu mwyafrif o ddwy ran o dair o aelodau’r Senedd ar gyfer unrhyw ostyngiad mewn pwerau.
Mae Plaid Cymru yn cefnogi trosglwyddo mwy o bwerau o San Steffan i’r Senedd mewn nifer o feysydd, gan gynnwys cyfiawnder troseddol, darlledu, adnoddau naturiol megis dŵr ac ynni, seilwaith rheilffyrdd, Ystâd y Goron a lles, a dylid sefydlu grwpiau arbenigol i hwyluso’r broses hon. Byddwn hefyd yn trosglwyddo’r pwerau i gyflwyno cwotâu rhywedd am etholiadau’r Senedd.
Nawr bod y Senedd yng Nghymru wedi ei chynyddu i 96 aelod yn dilyn etholiad 2026, yn debyg i Gynulliad Gogledd Iwerddon gyda 90 aelod, a Senedd yr Alban gyda 129 aelod, byddwn mewn gwell lle i arloesi a chraffu ar y llywodraeth unwaith i’r pwerau ychwanegol hyn gael eu trosglwyddo.