Plaid yn annog Llywodraeth Cymru i ail-feddwl a chynyddu profion am Coronafirws
Mae Arweinydd Plaid Cymru Adam Price a’r llefarydd Iechyd Rhun ap Iorwerth AC heddiw wedi galw ar i Lywodraeth Lafur Cymru ddweud yn glir a fyddant yn cynyddu profion gwyliadwriaeth yng Nghymru fel ffordd o greu darlun llawnach o faint yr haint Coronafirws.
Tynnodd Rhun ap Iorwerth sylw hefyd at linell gymorth Covid-19 yr Alban ar gyfer busnesau fydd yn wynebu ansicrwydd cynyddol dros yr wythnosau nesaf wrth i’r haint gael effaith ar yr economi, gan ddadlau y dylid sefydlu llinell gymorth debyg yng Nghymru.
Meddai Arweinydd Plaid Cymru Adam Price:
"Mae hwn yn gyfnod cynyddol bryderus i bawb. Mae pobl ledled Cymru yn cymryd camau call i hunan-ynysu os oes ganddynt symptomau o beswch cyson newydd neu dwymyn.
“Mae’n hanfodol i ni ennyn hyder y cyhoedd trwy roi cymaint ag sydd modd o eglurder ynghylch y clefyd. Dyna pam ein bod yn gofyn i’r Llywodraeth Lafur egluro’r sefyllfa ynghylch cynnal profion gwyliadwriaeth - dull o roi darlun llawn o wir faint lledaeniad y clefyd.”
“Mae canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd yn glir – allwch chi ddim brwydro yn erbyn firws os nad ydych yn gwybod lle mae. Darganfod, ynysu, profi a thrin pob achos yw’r ffordd i dorri cadwyni trosglwyddo. Mae pob achos y byddwn yn ei ddarganfod a’i drin yn cyfyngu lledaeniad y clefyd.”
Ychwanegodd llefarydd Iechyd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth:
“Gyda thri o ganolfannau profi Covid-19 gogledd Cymru yn cau, rwy’n pryderu na all pobl gyrchu profion sydyn fel yr arferent allu gwneud.”
“Os byddwn yn torri’n ôl ar gynnal profion, bydd yn gynyddol anodd modelu lledaeniad y firws.”
“Rhaid i ni hefyd flaenoriaethu staff hanfodol y GIG a gweithwyr allweddol y sector cyhoeddus ar gyfer eu profi gan y bydd ganddynt ran hanfodol i’w chwarae yn yr ymateb i’r pandemig.”
Wrth ymateb i effaith economaidd posib y firws, dywedodd Rhun ap Iorwerth;
“Mae ein heconomi yn debyg o ddioddef yn sylweddol dros yr ychydig wythnosau nesaf wrth i lai o bobl gymdeithasu yn eu cymunedau a gwario llai o arian mewn siopau lleol.”
“Rwyf eisiau i bobl gael cymaint o gefnogaeth ag sydd modd, ac y mae hynny’n cynnwys busnesau.”
“Mae gan yr Alban Linell Gymorth COVID-19 yn unswydd i ymdrin â phryderon busnesau, a dylai hyn gael ei sefydlu hefyd yng Nghymru yn ddi-oed.”
“Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru yn rhoi’r newyddion diweddaraf i ni yn rheolaidd, ac y mae’n hanfodol ein bod oll yn gweithio gyda’n gilydd. Ond rhaid i ni hefyd ddal ati i ddwyn pwysau er mwyn sicrhau’r arfer gorau. Ar hyn o bryd, mae nifer o fylchau sy’n rhaid eu llenwi, ac y mae hynny’n achosi pryder.”