Cadw Tirwedd Naturiol Cymru
Credwn y dylid cadw harddwch tirwedd naturiol Cymru. Golyga hyn y dylai datblygiadau cynhyrchu ynni diwydiannol ar raddfa fawr gymryd hyn i ystyriaeth. Dylai datblygiadau peilonau mawr neu ddatblygiadau solar gael eu hystyried yng nghyd-destun eu heffaith, a rhoi dulliau amgen ar waith i gysylltu ynni adnewyddol i’r grid cenedlaethol, e.e., trwy osod ceblau dan ddaear.
Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu datblygu safleoedd newydd am orsafoedd niwclear, a byddwn yn gwrthwynebu trwyddedau newydd i dyllu am olew a nwy.
Mae gwaddol y diwydiant glo yn dal i adael creithiau ar dirwedd ein cenedl. San Steffan wnaeth elwa o’r diwydiant yn y dyddiau cyn datganoli, a hwy ddylai ysgwyddo’r cyfrifoldeb am ddiogelu’r safleoedd hyn. Bydd Plaid Cymru yn pwyso i wneud yn sicr fod San Steffan yn talu am glirio’r tomennydd glo sy’n frith yn ein cymoedd, ac na fydd yn rhaid talu am adfer safleoedd trwy gloddio am fwy o lo.
Mae gwaddol y gwaith glo hefyd yn cael ei deimlo yn yr anghyfiawnder sy’n wynebu cyn-lowyr y mae eu pensiynau yn chwyddo coffrau’r Trysorlys, tra bod rhai cyn-lowyr yn byw ar gyn lleied â £10 yr wythnos. Mae Plaid Cymru yn mynnu y dylai Llywodraeth y DG ildio eu hawl i gronfeydd wrth gefn y cynllun pensiwn, ac y dylent drosglwyddo’r biliynau a gymerwyd eisoes oddi wrth y glowyr yn ôl i’r cyn-weithwyr hynny a’u teuluoedd. Rhaid i Lywodraeth y DG ymrwymo i weithredu argymhellion ymchwiliad y BEIS ei hun i Gynllun Pensiwn y Gweithwyr Mwynfeydd.
Buasem yn cadw’r gwaharddiad ar ffracio; yr ydym yn gwrthwynebu cynigion gweithfeydd cynyddu nwy yng Nghymru, am ar weithfeydd glo brig newydd. Dylai safleoedd glo brig gael eu hadfer yn llawn er budd cymunedau lleol, ac ni ddylid fyth eu defnyddio fel esgus i gwmnïau preifat dyllu am fwy o lo.
Dylai Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDdGA) yng Nghymru gael eu gwarchod yn fwy llym, fel na welwn fyth eto gwmnïau yn tipio gwastraff ar safleoedd gwarchodedig.