Mae llefarydd Plaid Cymru ar Brexit yn San Steffan, Hywel Williams AS heddiw wedi rhybuddio y bydd y trafodaethau a gynhelir rhwng Llywodraethau Cymru a’r DG yn ‘ddibwynt’ oni fydd y Prif Weinidog yn gadarnhach ei safbwynt ar aelodaeth o’r farchnad sengl a’r undeb tollau.
Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Plaid Lafur y DG dro pedol ar bolisi, gan honni eu bod yn cefnogi parhau’n aelod o’r farchnad sengl. Fodd bynnag, am gyfnod trosiannol yn unig y byddai hyn, sy’n golygu y byddai ansicrwydd yn parhau i fusnesau a chyflogwyr.
Daw sylwadau Hywel Williams AS wrth i’r Prif Weinidog gyfarfod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, a dirprwy Prif Weinidog Prydain, Damian Green, yng Nghaerdydd heddiw.
Sylwodd fod cyfres y Blaid Lafur o wrthddywediadau yn gadael economi Cymru yn fregus a miloedd o weithwyr yn ansicr ynghylch eu dyfodol.
Dywedodd Hywel Williams:
"Fydd y cyfarfod hwyr hwn rhwng y Prif Weinidog a chynrychiolwyr Llywodraeth y DG yn gwneud fawr ddim i dawelu meddyliau busnesau Cymru a’u gweithwyr.
"Mae sicrwydd yn allweddol os ydym am sicrhau economi gref a chadarn i Gymru wrth i ni baratoi i adael yr UE. Yn sicr, chaiff hyn mo’i warantu oni fydd y Prif Weinidog yn ymrwymo i aelodaeth barhaol o’r farchnad sengl a’r undeb tollau – dim llai.
"Os bydd Prif Weinidog Cymru yn gwneud dim ond dilyn y cyfaddawd blêr a gyhoeddwyd gan lefarydd Llafur ar Brexit Keir Starmer yr wythnos ddiwethaf, bydd y trafodaethau rhwng llywodraethau Cymru a’r DG yn ddibwynt.
"Beth yw’r pwynt i’r Prif Weinidog Llafur fynychu’r cyfarfodydd hyn oni fydd ef a’i blaid yn dangos gwir ymrwymiad i amddiffyn swyddi a busnesau Cymru?
"Bu Plaid Cymru yn glir a chyson eu barn fod yn rhaid i Gymru aros yn aelod parhaol o’r farchnad sengl Ewropeaidd a’r undeb tollau. Mae tua 200,000 o swyddi Cymreig yn gysylltiedig â’r farchnad honno, ac nid yw’n dderbyniol i weithwyr wynebu ansicrwydd ynghylch eu dyfodol.
"Dyw polisi trosiannol fel yr un a gyhoeddwyd gan Lafur yr wythnos ddiwethaf ddim yn werth ei gael. Rhaid i’r Prif Weinidog gefnogi aelodaeth barhaol o’r farchnad sengl neu fod mewn perygl o roi siec wag i’r Torïaid am Brexit caled."