Atal Trais yn Erbyn Menywod a Merched

Mae Plaid Cymru yn cydnabod graddfa a her trais yn erbyn menywod a merched, a’r angen i atal a lleihau’r niwed mae hyn yn ei achosi.

Mae heriau mawr yn y system cyfiawnder troseddol o ran sicrhau y credir menywod a merched, a’u bod yn derbyn cyfiawnder am y troseddau a gyflawnir yn eu herbyn.

Mae angen am hyfforddiant arbenigol a swyddogion cefnogi ynghylch materion rheoli trwy orfodaeth, stelcian a gwell dealltwriaeth o risg lladd.

Byddwn yn gweithio gyda’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yng Nghymru i ddatblygu mwy ar y gefnogaeth hon i fenywod a merched.

Bychan iawn yw nifer yr euogfarnau am droseddau yn erbyn menywod a merched. Gallai’r Comisiynydd Dioddefwyr helpu i gynyddu nifer yr euogfarnau llwyddiannus yn erbyn troseddwyr, fel rhan o gyfres o fesurau.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Creu Cofrestr Cam-drin Domestig i amddiffyn menywod fel dull o atal marwolaethau ac anafiadau gan ei fod yn peri adnabod dynion sy’n cam-drin yn gynnar. Byddai hyn yn symud y cyfrifoldeb oddi wrth ddarpar-ddioddefwyr (fel sy’n digwydd dan Gyfraith Clare) ac ar yr awdurdodau a’r troseddwyr eu hunain
  • Atal camdrinwyr rhag peri mwy o loes i’w dioddefwyr trwy gamau yn y llys, a chryfhau gorchmynion cyfyngu a chosbau am eu torri
  • Yn dilyn argymhelliad Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh, cael gofynion hyfforddiant arbenigol ar fater stelcian i bob gweithiwr proffesiynol sy’n delio ag achosion o stelcian, a defnyddio system gofnodi unedig gan yr Heddlu, GEG, y Swyddfa Gartref, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol i ddilyn taith dioddefwr stelcian trwy’r system cyfiawnder troseddol
  • Sicrhau bod cyfreithiau sy’n ymwneud â delweddau rhywiol yn wastad yn seiliedig ar gydsynio yn hytrach na bwriad - er mwyn cau tyllau dianc sy’n gweld troseddwyr yn osgoi cosb am gam-drin; a hefyd
  • Cynyddu dedfrydau am drais domestig a throseddau stelcian.

Cyfiawnder Troseddol a Phlismona: darllen mwy