Diffyg o £5.6 biliwn mewn seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru ers 1999

Jonathan_Treasury_2.jpg

Mae Plaid Cymru heddiw wedi ymateb i ffigyrau a gafwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru trwy alw cydgyfrannu hanesyddol arian trethdalwyr yn Llundain yn ‘warthus’.

Mae’r ffigyrau hyn, seiliedig ar ystadegau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Genedlaethol, yn dangos fod gwariant cyfalaf y llywodraeth ar drafnidiaeth yn y DG wedi canoli yn drwm yn ne-ddwyrain Lloegr.

Petai gwariant cyfalaf y pen ar drafnidiaeth yng Nghymru yn cyfateb i wariant y pen yn ne-ddwyrain ehangach Lloegr, byddid wedi buddsoddi £5.6 biliwn yn ychwanegol ers 1999.

Yn ei sylw, dywedodd Jonathan Edwards AS, llefarydd Grŵp San Steffan Plaid Cymru ar y Trysorlys:

“Mae cydgyfrannu hanesyddol gwariant ar seilwaith trafnidiaeth yn Llundain yn ‘warthus’. Dyma achos clasurol o danfuddsoddi gan Lywodraeth Llundain-ganolog Prydain ac achos cronig o esgeulustod gan Lywodraeth Lafur Cymru ers iddynt gymryd yr awenau ugain mlynedd yn ôl. Petai gwariant cyfalaf y pen ar drafnidiaeth yng Nghymru wedi cyfateb i wariant y pen yn ne-ddwyrain ehangach Lloegr, byddid wedi buddsoddi £5.6 biliwn yn ychwanegol ers 1999 Collodd seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru biliynau o bunnoedd.

“Ar hyn o bryd, mae trethi pobl Cymru yn llifo i Lundain a ninnau’n cael cynnig briwsion yn eu lle. Pan fydd gwleidyddion Torïaidd a Llafur yn sôn am gydgyfrannu a rhannu, mae’n rhaid mai’r hyn maent yn olygu yw mai Cymru a rhannau eraill y Wladwriaeth Brydeinig sy’n gwneud y rhannu a Llundain sy’n gwneud y cydgyfrannu.

“I roi £5.6 biliwn yn ei gyd-destun, mae’r cyfan o brosiect trafnidiaeth Cymru sydd ar y gweill, sydd yn cynnwys trydaneiddio Prif Reilffordd y Gorllewin a ganslwyd yn ddiweddar, Metro De Cymru, trydydd pont dros y Fenai, ffordd osgoi Caernarfon – Bontnewydd a degau o brosiectau hanfodol eraill ledled Cymru, yn werth £7.3 biliwn.

“Dylai’r ffigyrau hyn achosi pryder enbyd gan y bydd Brexit yn golygu diwedd ar y cronfeydd strwythurol o’r UE. Mae’r Wladwriaeth Brydeinig yn anhygoel o annheg ac y mae canoli seilwaith trafnidiaeth yn Llundain a De-Ddwyrain Lloegr yn un o’r rhesymau dros hyn. Mae model y Wladwriaeth Brydeinig wedi torri, a does fawr o bwynt chwilio am ateb gan bleidiau San Steffan.

“Dychmygwch beth allasen ni fod wedi gwneud ers datganoli i wella seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru gyda £5.6 biliwn. Bydd pleidiau San Steffan yn wastad yn gofalu am Lundain. Mae Llafur a’r Toriaid cynddrwg â’i gilydd. Does dim pwynt gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yng Nghymru; mae angen i ni gael y portffolio llawn o fecnweithiau creu swyddi yng Nghymru i’n galluogi i wneud y gwaith ein hunain.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.