Mae llefarydd Plaid Cymru ar Brexit, ac aelod Cymru ar Bwyllgor Dethol Ty'r Cyffredin ar Brexit, Jonathan Edwards, wedi ymateb i benderfyniad llywodraeth San Steffan i danio Erthygl 50.
Dywedodd Jonathan Edwards:
“Mae Llywodraeth Prydain wedi gwneud penderfyniad i olrhain y Brexit mwyaf eithafol posib ac mae’r wrthblaid Lafur wan a rhanedig wedi eu galluogi nhw i wneud hynny.
“Does dim rhaid i ni ddilyn y trywydd yma. Mae ffordd well – ffordd synhwyrol a chymhedrol, yn gwarchod ein cysylltiadau economaidd gyda gweddill y byd a’n haelodaeth o’r farchnad sengl; gwarchod yr arian Ewropeaidd mae cymaint ledled Cymru a gweddill Ynysoedd Prydain yn elwa ohono; a gwarchod y cyfleodd i bobl ifanc ehangu eu gorwelion a’u gyrfaoedd.
“Dwedodd y Prif Weinidog y bydd hi’n sicrhau cytundeb rhwng gweldydd y Deyrnas Gyfunol cyn dechrau negodi Brexit ond yn hytrach, mae hi’n ymddwyn fel petai hi’n bennaeth ar wladwriaeth Brydeinig unedol, yn anwybyddu’n llwyr y ffaith mai Prif Weinidog ar Undeb o bedwar aelod yw hi. Mae’r wrthblaid Lafur wan a rhanedig wedi gadael i hyn ddigwydd ac mae Llywodraeth Lafur llwfr yn dal i esgeuluso ei dyletswydd i gynrychioli diddordebau pobl Cymru.
“Mae Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol wedi rhoi’r wladwriaeth ar drywydd tuag at ddibyn clogwyn ond does dim rhaid i ni barhau ar y trywydd yma. Bydd Plaid Cymru yn brwydro dros ganlyniad mwy synhwyrol i’r refferendwm sydd yn blaenoriaethu swyddi, cyflogau a safonau byw ein pobl cyn obsesiynau ideolegol anghyfrifol.”
Wrth siarad ym Mrwsel heddiw, dywedodd Jill Evans ASE:
“Er bod tanio Erthygl 50 yn arwydd o ddechrau’r DG yn gadael yr UE, rhaid iddo hefyd fod yn arwydd o ddechrau adfywiad Cymru fel gwlad annibynnol Ewropeaidd.
“Mae llywodraeth y DG yn barod i neidio’n bendramwnwgl allan o’r UE heb gymryd i ystyriaeth unrhyw un o’r blaenoriaethau a amlinellwyd ym Mhapur Gwyn Cymru a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
“Byddaf yn ceisio am bob cyfle i ganfod y cyfloedd gorau i Gymru allan o’r terfysg sydd yn ein wynebu. Byddaf yn ceisio achub ar unrhyw gyfleoedd i ddylanwadu ar y negodiadau i’n cadw ni o fewn y Farchnad Sengl a chael y gallu i barhau i gymryd rhan yn y nifer fawr o raglenni UE sydd bod o fudd i Gymru.
“Dydyn ni heb gyflawni ein llawn botensial a rhaid i heddiw gofnodi dechrau ein hymdrech i ganfod ffyrdd amgen o wneud hynny.
“Wrth i’r negodiadau ddechrau, bydd Senedd Ewrop yn dechrau trafod ei safbwynt ei hun. Byddaf yn parhau i sicrhau bod llais Cymru’n cael ei glywed yn Ewrop bob cam o’r cyfnod negodi.”