‘Tra bod mawrion y byd ynni yn gwneud elw mawr, hwy ddylent fod yn
talu’r bil trwy dreth elw estynedig’

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, wedi rhybuddio’r Prif Weinidog newydd rhag “ochri gyda chwmnïau sy’n budr-elwa’ i dalu am ei pholisi ar filiau ynni.

Tybir bod Liz Truss yn bwriadu rhewi biliau ar tua £2,500 - rhyw £500 yn uwch na’r lefelau presennol, ond fwy na £1,000 yn is na’r cap sydd i ddigwydd mis nesaf. Disgwylir y bydd yn talu am y cynllun trwy drethi cyffredinol a benthyca.

Mae Plaid Cymru yn galw am dorri’r cap ar brisiau ynni i’r hyn oedd cyn mis Ebrill, sef £1,277 y flwyddyn i gwsmeriaid debyd uniongyrchol, a £1,309 i gwsmeriaid oedd yn talu ymlaen llaw. Dywed y blaid “er bod mawrion y byd ynni yn parhau i wneud elw anferthol”, y dylid talu am y polisi trwy “dreth elw estynedig” yn hytrach na threthi cyffredinol.

Anogodd Liz Saville Roberts Lywodraeth y DG i ostwng biliau ynni yn barhaol trwy “gynllun cynhwysfawr i ôl-ffitio cartrefi” a benthyciadau di-log i fusnesau  i fuddsoddi mewn “cynhyrchu ynni gwyrdd ar y safle”.

Meddai arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS:

“Mae cynlluniau Liz Truss am filiau ynni yn dangos ei bod yn ochri gyda’r cwmnïau sy’n budr-elwa, gan fynnu mai’r bobl fydd yn talu am yr argyfwng ynni am flynyddoedd i ddod. Bydd y polisi y disgwyliwn iddi ei gyhoeddi mewn gwirionedd yn gwneud i drethdalwyr fenthyca biliynau o bunnoedd i sybsideiddio cyfranddalwyr cwmnïau ynni.

“Tra bod mawrion y byd ynni yn parhau i wneud elw  anferthol, hwy ddylent fod yn talu’r biliau trwy dreth elw estynedig, yn hytrach na gorfodi pobl gyffredin i wneud hynny trwy drethi cyffredinol.

“Gyda phobl eisoes yn ei chael yn anodd, rhaid torri’r cap ar brisiau ynni i’r lefelau oeddent cyn mis Ebrill - bydd unrhyw beth llai na hyn yn golygu y bydd angen pecynnau cymorth ychwanegol i aelwydydd bregus, gan gynnwys dyblu’r taliad costau byw o £650 ac adolygu’r meini prawf cymhwyster i gynnwys pobl ar fudd-daliadau anabledd, nad ydynt ar hyn o bryd yn gymwys am gymorth.

“Mae arnom hefyd angen ateb mwy tymor-hir gan y Prif Weinidog newydd i leihau’r galw am ynni a chynyddu cynhyrchu ynni adnewyddol ar frys. Rhaid i Lywodraeth y DG weithredu ar frys i fuddsoddi mewn cynllun cynhwysfawr o ôl-ffitio cartrefi a chyflwyno benthyciadau di-log i fusnesau fel y gallant weithredu i leihau eu costau ynni, trwy gamau fel buddsoddi mewn cynhyrchu ynni gwyrdd ar y safle.

“Mae’n arswydus meddwl, er enghraifft, fod tai newydd yn dal i gael eu codi a’u ffitio gyda bwyleri nwy yn hytrach na phympiau gwres, nad oes cymhellion i fusnesau osod paneli solar ar eu toeau. Mae’n hanfodol cael ymrwymiad cadarn gan y Prif Weinidog i weithredu ar yr atebion tymor-hir hyn  os ydym am ostwng biliau ynni yn barhaol, a chwrdd  â’n hymrwymiadau sero-net ar yr un pryd.”